Agor y brif ddewislen

Richard Roberts

llenor a phregethwr gyda'r Annibynwyr

Nofelydd, ffermwr a bardd o Gymru oedd Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart, neu GR 1810 - 25 Gorffennaf 1883).

Richard Roberts
Ganwyd 5 Tachwedd 1809 Edit this on Wikidata
Llanbryn-mair Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Gorffennaf 1883 Edit this on Wikidata (73 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth ffermwr, nofelydd, bardd Edit this on Wikidata
Tad John Roberts Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn fferm Diosg, Llanbrynmair ym 1810. Cofir am Roberts yn bennaf fel awdur.

Roedd yn un o feibion John Roberts, gweinidog yr Hen Gapel, Llanbrynmair a Mary, (née Breese) ei wraig. Roedd John Roberts a'i feibion Samuel Roberts (SR), John Roberts (JR) a GR yn gyfrifol am roi enw i Lanbrynmair fel un o ganolfannau Anghydffurfiaeth, Rhyddfrydiaeth a llenyddiaeth pwysicaf Cymru'r 19 ganrif.

Fe gafodd GR ei fagu ar gyfer gwaith y fferm, ac nid oedd ganddo lawer o fanteision addysgol. Fel ei frodyr roedd ganddo chwaeth lenyddol gref. Roedd yn bregethwr lleyg yn enwad yr Annibynwyr. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith a phenillion ar gyfer Y Cronicl a chylchgronau eraill. Roedd yn awdur nofel o’r enw Jeffrey Jarman, y meddwyn diwygiedig. Mae ei gerdd, Cân y Glep , a ymddangosodd yn Y Cronicl ym mis Tachwedd 1855, yn enghraifft wych o ddychan Cymreig. Ar 3 Chwefror 1853 priododd Anne Jones, o Gastell Bach, Rhaeadr Gwy, bu iddynt un ferch. Ymfudodd y teulu i Tennessee ym 1856, lle adeiladodd GR bwthyn coed o'r enw Brynffynnon lle buont yn ymgartrefu fel ffermwr. Dychwelodd i Gymru ym mis Medi 1870 ac ymddeolodd i Brynmair, Conwy. Bu farw 25 Gorffennaf 1883 ym Mrynmair; bu farw ei wraig ar 5 Mai 1886; priododd eu hunig blentyn, Margaret, â John Williams, Conwy.

CyfeiriadauGolygu