Nofel gan Dewi Prysor yw Rifiera Reu a gyhoeddwyd yn 2015 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Rifiera Reu
AwdurDewi Prysor
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi02/12/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784610401
GenreFfuglen

Nofel newydd feiddgar gan awdur Lladd Duw a Cig a Gwaed yw hon, ei nofel gyntaf ers 2012. Mae'n stori ddireidus i oedolion gyda pheth hiwmor tywyll. Roedd Rifiera Reu ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, 2016.

Mae Dewi Prysor yn enw cyfarwydd, ac roedd yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015. Enwyd Lladd Duw (Y Lolfa, 2010) ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011. Enillodd y gyfrol Wobr Barn y Bobl Golwg 360. Cyrhaeddodd ei nofel ddiwethaf, Cig a Gwaed (Y Lolfa, 2012) Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017