Giuseppe Garibaldi
Arweinydd milwrol a gwleidyddol Eidalaidd oedd Giuseppe Garibaldi (4 Gorffennaf 1807 – 2 Mehefin 1882).
Giuseppe Garibaldi | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1807 Nice |
Bu farw | 2 Mehefin 1882 Caprera |
Dinasyddiaeth | Riograndense Republic, Teyrnas yr Eidal, Ffrainc, Kingdom of Sardinia, Periw |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, hunangofiannydd, gwrthryfelwr milwrol, person milwrol, hurfilwr |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, member of the Chamber of Deputies of the Kingdom of Sardinia |
Adnabyddus am | Unification of Italy |
Plaid Wleidyddol | Historical Far Left, Historical Left, Action Party, Young Italy |
Priod | Anita Garibaldi, Giuseppina Raimondi, Francesca Armosino |
Plant | Ricciotti Garibaldi, Rosa Garibaldi, Teresa Garibaldi, Clelia Garibaldi, Manlio Garibaldi, Rosita Garibaldi, Anita Garibaldi, Menotti Garibaldi |
Gwobr/au | Grand Officer of the Military Order of Italy, Gold Medal of Military Valour, Commemoration Medal for the thousand of Marsala, Shield of San Antonio |
llofnod | |
Ganed Garibaldi yn ninas Nice yn Ffrainc. Daeth yn gapten llong yn 1832. Y flwyddyn wedyn, hwyliodd i Taganrog, Rwsia, lle cyfarfu a Giovanni Battista Cuneo, alltud o'r Eidal ac aelod o fudiad La Giovine Italia ("Yr Eidal Ieuanc"), a oedd wedi ei sefydlu gan Giuseppe Mazzini i geisio uno'r Eidal a'i rhyddhau o reolaeth Awstria. Yn Genefa yn ddiweddarach ym 1833, cyfarfu a Mazzini ei hun. Ymunodd Garibaldi a'r Carbonari, ac yn Chwefror 1834 Montevideo, Wrwgwái, yn 1841, lle priododd ei wraig, Anita. Cymerodd ran amlwg yn Rhyfel Cartref Wrwgwái, gan ffurfio lleng o Eidalwyr ac ennill nifer o fuddugoliaethau.
Dychwelodd i'r Eidal yn 1848, a chymerodd ran amlwg yn yr ymladd yno. Gorchfygodd fyddin Ffrengig lawer mwy ar 30 Ebrill 1849, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno bu raid iddo ffoi i San Marino. Bu yn Ninas Efrog Newydd am gyfnod. Dychwelodd i'r Eidal yn 1854, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau dros yr Awstriaid. Bu ganddo ran amlwg yn y brwydrau a arweiniodd at uno'r Eidal.