Robert Roy MacGregor
Herwr Albanaidd oedd Robert Roy MacGregor, (bedyddiwyd 7 Mawrth 1671 – 28 Rhagfyr 1734). Adnabyddid ef fel rheol fel Rob Roy yn Saesneg a Raibeart Ruadh (Roger Goch) mewn Gaeleg.
Robert Roy MacGregor | |
---|---|
Rob Roy tua 1820 | |
Ganwyd | 7 Mawrth 1671 Glengyle |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1734 Balquhidder |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Galwedigaeth | ffermwr |
Swydd | Scottish clan chief |
Tad | Donald Macgregor |
Mam | Margaret Campbell |
Priod | Mary Helen MacGregor |
Plant | James Mor Macgregor, Coll Macgregor, Duncan Macgregor, Ranald Macgregor, Robert 'oig' Macgregor |
Ganed ef yn Glengyle, ger Loch Katrine. Priododd Mary Helen MacGregor o Comar, a chwsant bedwar mab, James (a adnabyddid fel Mor, "Mawr"), Ranald, Coll a Robert (a adnabyddid fel Robin Oig, "Robin Ieuanc").
Roedd yn gefnogwr cryf i blaid y Jacobitiaid, ac ymladdodd dan John Graham, Feicownt 1af Dundee dros y Stiwartiaid. Clwyfwyd ef yn ddifrifol ym mrwydr Gen Sheil yn 1719. Yn ddiweddarch, daeth yn ffermwr gwartheg sylweddol, ond wedi iddo fenthyca swm mawr o arian i gynyddu ei ddiadell, collodd yr arian a llawer o'i wartheg pan ffôdd y gwr oedd wedi ei yrru i brynu'r gwartheg â'r arian. Oherwydd hyn, cyhoeddwyd ef yn herwr, a llosgwyd ei dŷ yn Inversnaid. Cipiodd ei brif ddyledwr, James Graham, Dug 1af Montrose, ei diroedd, a bu ymladd rhwng Rob a'r Dug hyd 1722, pan fu raid i Rob ildio. Carcharwyd ef am gyfnod, ond cafodd bardwn yn 1727.
Ysgrifennodd Daniel Defoe lyfr o'r enw Highland Rogue amdano yn 1722, a daeth yn enwog pan ysgrifennodd Syr Walter Scott ei nofel Rob Roy yn 1817. Ymddangosodd ffilm Rob Roy yn 1995.