Awdur a newyddiadurwr o Sais oedd Daniel Defoe (1659/1661 - 24 Ebrill [?], 1731). Roedd yn un o arloeswyr y nofel yn Saesneg, a daeth yn enwog am ei nofel Robinson Crusoe.

Daniel Defoe
GanwydDaniel Foe Edit this on Wikidata
c. 1660 Edit this on Wikidata
Ward Cripplegate, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ebrill 1731 Edit this on Wikidata
Moorfields Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, rhyddieithwr, awdur plant, swyddog cyhoeddusrwydd, ysgrifennwr, person busnes, gohebydd gyda'i farn annibynnol, bardd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRobinson Crusoe, Moll Flanders, A Journal of the Plague Year Edit this on Wikidata
TadJames Foe Edit this on Wikidata
MamAlice Marsh Edit this on Wikidata
PriodMary Tuffley Edit this on Wikidata
PlantBenjamin Norton Defoe, Sofia Defoe Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef fel Daniel Foe yn Llundain; ychwanegodd y "De" yn ddiweddarach i swnio'n fwy uchelwrol. Presbyteriaid oedd ei rieni, ac mae'n debyg iddo gael ei addysgu yng ngholeg Anghydffurfiol Stoke Newington.

Bu'n farsiandïwr, er mai anaml yr oedd yn rhydd o ddyledion, a phriododd Mary Tuffley yn 1684. Cymerwyd ef i'r ddalfa am ddyled yn 1692. Wedi iddo gael ei ryddhau, bu'n teithio yn Ewrop a'r Alban. Un o'i gyhoeddiadau cynharaf oedd An Essay upon Projects 1697. Cyhoeddodd nifer fawr o bamffledi, a charcharwyd ef yng Ngharchar Newgate am gyhoeddi The Shortest Way with the Dissenters yn 1703, lle roedd yn dychanu'r Torïaid Uchel-Eglwysig. Rhyddhawyd ef gan gytunodd i weithredu fel ysbiwr dros y llywodraeth, ac yn 1706 gyrrwyd ef i Gaeredin i gynorthwyo i sicrhau fod Deddfau Uno 1707 i uno Lloegr a'r Alban yn cael eu pasio.

Rhwng 1719 a 1728, cyhoeddodd nid yn unig Robinson Crusoe (1719) a dau ddilyniant: Farther Adventures (1719) a Serious Reflections (1720), ond hefyd gyfres o lyfrau megis Captain Singleton (1720), Colonel Jack (1722), Moll Flanders (1722), Religious Courtship (1722), A Journal of the Plague Year (1722), Roxana: The Fortunate Mistress (1724), The Complete English Tradesman (1726), a The New Family Instructor (1727). Un o'i weithiau mwyaf nodedig oedd A tour thro' the Whole Island of Great Britain (1724–27), sy'n ffynhonnell werthfawr.

Dylanwad yng Nghymru golygu

Cyfieithiwyd neu addaswyd Robinson Crusoe i'r Gymraeg sawl gwaith, er enghraifft gan J. Tye o Wrecsam ac yna gan H. Humphreys, Caernarfon, ganol y 19eg ganrif, a bu'n llyfr poblogaidd iawn yn ei ddiwyg Cymraeg.

Cyfeiriadau golygu