Loch Katrine
Llyn gerllaw Stirling yn yr Alban yw Loch Katrine (Gaeleg: Loch Ceiterein). Mae'n llyn hir, cul, tua 13 km o hyd a 1 km o led, yn ymestyn ar hyd Srath Ghartain. Gan ei fod o fewn cyrraedd i Glasgow a dinasoedd eraill, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a cheir teithiau llong ar y llyn.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a'r Trossachs |
Sir | Stirling |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 12.4 km² |
Cyfesurynnau | 56.2544°N 4.5156°W |
Hyd | 12.9 cilometr |
Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn sy'n un o brif gronfeydd dŵr Glasgow; adeiladwyd yr argae (o tua 6 troedfedd) i godi ei lefel. Ganed yr herwr Robert Roy MacGregor ger glan y llyn, a hwn yw'r llyn yn nofel Walter Scott The Lady of the Lake.