Robat Powell

bardd

Bardd ac Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1985 yw Robat Powell. Mae'n dod yn wreiddiol o Lynebwy.[1] Ef oedd y dysgwr cyntaf i ennill y Gadair mewn Eisteddfod Genedlaethol gyda'i awdl 'Cynefin'.

Robat Powell
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Cafodd yrfa yn y byd addysg. Mae'n diwtor ar ddosbarth cynghanedd Cwm Tawe.

Rhwng 2013 a 2022 Robat oedd arweinydd Capel y Nant, Clydach. Ef hefyd yw ysgrifennydd yr eglwys.

Yn 2024, roedd e'n byw yn Nhreforys.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Haearn Iaith (Gwasg Gomer, 1996)
  • Cyfres Lleisiau: Pwy yw Tom Cruise? (CAA Cymru, 2006)
  • Cyfres Lleisiau: Am Enw! (CAA Cymru, 2006)
  • Yn y Canol (CAA Cymru, 2007)
  • Cyfres Lleisiau: Helynt Haf (CAA Cymru, 2007)
  • Cyfres Tonic 5: O'r Newydd (CAA Cymru, 2007)
  • Cyfres Tonic 5: O'r Galon (CAA Cymru, 2007)
  • Tymor da (Cyhoeddiadau Barddas, 2024)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Robat Powell". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cyrchwyd 16 Mawrth 2024.
  2. Powell, Robat (2024). Tymor Da. Cyhoeddiadau Barddas.