Capel y Nant

capel yr Annibynwyr yng Nghlydach

Mae Capel y Nant yn eglwys Gymraeg sy'n ceisio cynnal a hyrwyddo'r ffydd Gristnogol yng Nghlydach, Abertawe. Lleolir Capel y Nant yng nghanol Clydach, ffurfiwyd pan ddaeth cynulleidfaoedd Capel Annibynwyr Hebron a Chapel Annibynwyr Carmel ac Eglwys Bresbyteraidd Salem at ei gilydd i sefydlu cynulleidfa newydd yn adeilad Carmel.[1]

Capel y Nant
Mathcapel anghydffurfiol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadClydach Edit this on Wikidata
SirSir Abertawe
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.697077°N 3.895699°W Edit this on Wikidata
Cod postSA6 5HA Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Ymffurfiodd y capel yn 2008, cytunodd y Parch Dewi Myrddin Hughes, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i fod yn 'Arweinydd' yr eglwys. Yn dilyn ymddeoliad Dewi ym mis Ionawr 2013, cymerodd y Prifardd Robat Powell swydd 'Arweinydd' Capel y Nant. Robat hefyd yw Ysgrifennydd yr eglwys.[2] Ar ddechrau 2022, cafodd Dr Fiona Gannon ei gwneud yn drydydd 'Arweinydd' Capel y Nant.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Capel y Nant". jamespantyfedwen.cymru. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.
  2. "BLE - A PHWY?". capelynant.org. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.