Edward VI, brenin Lloegr

brenin Lloegr
(Ailgyfeiriad o Edward VI o Loegr)

Edward VI (12 Hydref 15376 Gorffennaf 1553) oedd Brenin Lloegr rhwng 28 Ionawr 1547 a'i farwolaeth yn 1553 pan oedd yn 16 oed.[1] Coronwyd ef yn frenin ar 20 Chwefror pan oedd yn naw mlwydd oed. Edward oedd mab Harri VIII a Jane Seymour, a theyrn cyntaf Lloegr a gafodd ei fagu'n Brotestant.[2] Yn ystod ei deyrnasiad byr rheolwyd y deyrnas gan Gyngor Rhaglywiaeth oherwydd nad oedd yn ddigon aeddfed i reoli yn annibynnol. Arweiniwyd y cyngor hwn yn gyntaf gan ei ewythr Edward Seymour, 1af Iarll Gwlad yr Haf (1547 – 1549) ac yna gan John Dudley, Iarll 1af Warwick (1550 – 1553), a oedd hefyd yn Ddug Northumberland o 1551 ymlaen.[1][3]

Edward VI, brenin Lloegr
Ganwyd12 Hydref 1537 Edit this on Wikidata
Palas Hampton Court Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1553 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Greenwich Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, teyrn Iwerddon, Tywysog Cymru Edit this on Wikidata
TadHarri VIII Edit this on Wikidata
MamJane Seymour Edit this on Wikidata
Llinachtuduriaid Edit this on Wikidata
llofnod

Yn ystod ei deyrnasiad wynebodd Edward broblemau economaidd ac anfodlonrwydd cymdeithasol, a gyrhaeddodd benllanw yn 1549 pan fu terfysg a gwrthryfel. Profodd rhyfel gyda’r Alban yn gostus yn ariannol, ac er i’r rhyfel fod yn llwyddiannus ar y dechrau, bu’n rhaid i fyddin Lloegr dynnu'n ôl o’r wlad er mwyn sicrhau heddwch. Trowyd Eglwys Loegr yn Eglwys fwy Protestannaidd ei hedrychiad adeg teyrnasiad Edward, gan fod llawer o ddiddordeb gan y Brenin mewn materion crefyddol.[4] Yn ystod teyrnasiad Edward cafodd y ffydd Brotestannaidd ei sefydlu yn fwy cadarn yn Lloegr, gyda newidiadau crefyddol yn cael eu gweithredu i sicrhau hyn - er enghraifft, diddymu statws di-briod y glerigaeth, newidiadau i’r Cymun a chyflwyno gwasanaethau yn y Saesneg.

Yn 1553, pan oedd Edward yn 15 mlwydd oed, cafodd afiechyd difrifol a olygai y byddai ei fywyd yn fyrhoedlog. Yn sgil hynny, trefnodd y Cyngor Rhaglywiaeth bod cynllun o’r enw ‘Dyfais ar gyfer yr Olyniaeth’ yn cael ei lunio a fyddai’n sicrhau nad oedd y deyrnas yn dychwelyd i Gatholigiaeth. Enwebodd Edward ei gyfnither cyntaf, y Fonesig Jane Grey, fel ei etifedd, ac anwybyddwyd hawliau ei hanner chwiorydd, Mari ac Elisabeth. Cafodd y penderfyniad dadleuol hwn ei gwestiynu ar ôl marwolaeth Edward, a chafodd Jane ei diorseddu gan Mari wedi i Jane fod ar yr orsedd am naw diwrnod. Yn ystod teyrnasiad Mari, cafodd diwygiadau Protestannaidd Edward eu dadwneud a sefydlwyd y ffydd Gatholig yn ei theyrnas. Er hynny, bu diwygiadau Protestannaidd Edward yn sail i Gytundeb Crefyddol Elisabeth a gyflwynwyd ganddi ar ei hesgyniad hithau i’r orsedd yn 1559, yn dilyn marwolaeth Mari.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Loach, Jennifer. (1999). Edward VI. Bernard, G. W., Williams, Penry. New Haven: Yale University Press. ISBN 0-300-07992-3. OCLC 41754171.
  2. "5 Fascinating Facts about King Henry VIII's son, King Edward VI". History is Now Magazine, Podcasts, Blog and Books | Modern International and American history (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.
  3. MacCulloch, Diarmaid. (2002). The boy king : Edward VI and the Protestant Reformation. Berkeley: University of California Press. ISBN 0-520-23402-2. OCLC 49638794.
  4. MacCulloch, Diarmaid. (2002). The boy king : Edward VI and the Protestant Reformation. Berkeley: University of California Press. t. 8. ISBN 0-520-23402-2. OCLC 49638794.
Rhagflaenydd:
Harri VIII
Brenin Lloegr
28 Ionawr 15476 Gorffennaf 1553
Olynydd:
Mari I