Robert Herbert Williams

cerddor

Cerddor o Gymro oedd Robert Herbert Williams (180520 Tachwedd 1876).

Robert Herbert Williams
Ganwyd1805 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1876 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd ym mhlwyf Bangor, Sir Gaernarfon. Pan oedd yn fachgen, symudodd ei deulu i Lerpwl. Cafodd ei fagu fel dilledydd ac roedd ei deulu yn cadw siop ar Basnett Street ar gongl Williamson Square, Lerpwl.

Cerddoriaeth

golygu

Yn 17 oed, cyfansoddodd yr emyn 'dymuniad' a chafodd ei weld gyntaf yn Y Drysarfa yn Ionawr 1835. Cafodd ei chyhoeddi wedyn yng Nghasgliad o Ddarnau ym 1843. Mae o wedi cyfansoddi sawl emyn arall ac wedi cyhoeddi casgliad bach ohonynt ym 1848 o dan yr enw Alawydd Trefriw.

Blynyddoedd olaf

golygu

Am rai flynyddoedd, roedd yn byw yn Drogheda, Iwerddon. Dychwelodd i Lerpwl am gyfnod cyn mynd i fyw i Corfandy, Porthaethwy pan oedd yn wael nes iddo farw ar yr 20fed o Dachwedd 1876. Mae ei fedd ym mynwent Llantysilio.

Ffynonellau

golygu
  • Y Cerddor Cymreig (1861-1873), 1866 a 1868
  • Y Cerddor, Mai 1893
  • M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890)