Seiclwr ffordd proffesiynol o Dde Affrica ydy Robert Hunter (ganwyd 22 Ebrill 1977, Johannesburg). Yn 2006, reidiodd dros dîm Phonak Hearing Systems a chystadlodd yn yr UCI ProTour, ond wedi i'r cefnogaeth arianol ddod i ben gan ddod a diwedd i'r tîm, arwyddodd gytundeb gyda dîm Cylchdaith Cyfandirol UCI, Barloworld ar gyfer tymor rasio 2007. Mae campau pennaf ei yrfa hyd yn hyn yn cynnwys ennill cam yn Vuelta a España 1999 a 2001, ac yn Tour de France 2007. Enillodd Tour of Qatar 2004, a chystadleuaeth sbrintio Tour de Suisse 2004.

Robert Hunter
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnRobert Hunter
LlysenwRobbie
Dyddiad geni22 Ebrill 1977
Taldra1.78 m
Pwysau72 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrintiwr
Tîm(au) Proffesiynol
1999 – 2001
2002
2003 – 2004
2005 – 2006
2007 –
Lampre-Daikin
Mapei-Quickstep
Rabobank
Phonak Hearing Systems
Barloworld
Golygwyd ddiwethaf ar
19 Medi, 2007

Mae wedi ennill gwobr Seiclwr y Flwyddyn De Affrica sawl gwaith ers 2001.

Yn 2006, roedd yn rhan o dîm y buddugol Floyd Landis yn Y Tour de France. Ac yn 2007, dychwelodd i'r Tour de France fel arweiniwr tîm Barloworld. Enillodd gam 11 o'r ras, y person cyntaf erioed o Dde Affrica i ennill cam o'r ras hwnnw.

Canlyniadau

golygu
1999
1af, Cam 1, Vuelta a España
2000
2il, Ronde van Nederland
1af, mewn 2 Gam, Ronde van Nederland
2001
1af, Cam 17, Vuelta a España
2002
1af, Cystadleuaeth Sbrint, Tour de Langkawi
1af, Cam 1, Tour de Langkawi
1af, Cam 4, Tour de Langkawi
2003
2004
1af, Cystadleuaeth SbrintTour de Suisse
1af, Cam 3, Tour de Suisse
1af, Cam 5, Tour de Suisse
1af Tour of Qatar
1af, Cam 3, Tour of Qatar
1af, Cam 5, Tour of Qatar
1af, Cam 1, Uniqua Classic
1af, Cam 3, Uniqua Classic
1af, Cam 4, Sachsen-Tour
2005
1af, Doha International GP
1af, Cam 5, Tour Méditerranéen
1af, Cam 4, Setmana Catalana
1af, Cam 1, Tour de Georgia
1af, Treial Amser Tm Volta a Catalunya
2006
1af, African Continental Championship Time Trial
2007
1af, Cam 5, Giro del Capo
1af, Volta ao Distrito de Santarém
1af, Cam 2, Volta ao Distrito de Santarém
1af, Cam 2 / cymal 1, Clasica Alcobendas
1af, Tour de Picardie
1af, Cam 1, our de Picardie
1af, Cam 11, Tour de France
2il, Cystadleuaeth Bwyntiau, Tour de France

Dolenni Allanol

golygu