Mae Barloworld (Côd Tîm UCI: BAR) yn dîm seiclo Proffesiynol Cyfandirol UCI. Er eu bod wedi'u seilio yn y Deyrnas Unedig, ystyrir hwy i fod yn dîm o Dde Affrica[1] pan maent yn cymryd rhan mewn rasys Cylchdaith Cyfandirol UCI a phan cant eu dewis ar hap, mewn rasys TaithPro UCI. Rheolir hwy gan Claudio Corti gyda Valerio Tebaldi, Christian Andersen a Alberto Volpi yn rhoi cymorth fel directeur sportif. Reidwyr mwyaf blaengar Barloworld ydy Robert Hunter o Dde Affrica a Mauricio Soler o Golombia.

Barloworld
Gwybodaeth y Tîm
Côd UCI BAR
Sefydlwyd 2003
Disgyblaeth(au) Ffordd
Statws Proffesiynol Cyfandirol
Personél Allweddol
Rheolwr Cyffredinol Claudio Corti

Cefnogwr ariannol y tîm ydy Barloworld, sy'n gwmni rheoli brand diwydiannol. Mae'r tîm yn reidio fframiau Cannondale gyda darnau gyrru-cadwyn Campagnolo.

Cystadlodd Tîm Barloworld yn Tour de France 2007 ar ôl derbyn safle ar hap, gan wneud Barloworld y tîm cyntaf a seilir ym Mhrydain i gystadlu yn y Tour de France ers i ANC-Halfords Cycling Team gystadlu yn Tour 1987.

Ychydig ddyddiau wedi diwedd y tîm, bu farw aelod o'r tîm, Ryan Cox wedi i rhydweli fyrstio yn ei goes.

Canlyniadau

golygu

Aelodau Tîm

golygu
Enw Dyddiad Geni Cenedlaetholdeb
Pedro Arreitunandia 24 Gorffennaf 1974  
John-Lee Augustyn 10 Awst 1986  
Giosuè Bonomi 21 Hydref 1978  
Diego Caccia 31 Gorffennaf 1981  
Félix Cárdenas 24 Tachwedd 1972  
Giampaolo Cheula 23 Mai 1979  
Enrico Degano 11 Mawrth 1976  
Alexander Efimkin 2 Rhagfyr 1981  
Fabrizio Guidi 13 Ebrill 1972  
Robert Hunter 22 Ebrill 1977  
Paolo Longo Borghini 10 Rhagfyr 1980  
James Lewis Perry 19 Tachwedd 1979  
Hugo Sabido 14 Rhagfyr 1979  
Kanstantin Siutsou 9 Awst 1982  
Mauricio Soler 14 Ionawr 1983  
Geraint Thomas 25 Mai 1986  

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Team Barloworld, a long-term project to put South Africa amongst the world's elite". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-05. Cyrchwyd 2007-09-18.

Dolenni Allanol

golygu