Pentref model yn ne-orllewin yr Alban yw New Lanark. Saif yn awdurdod unedol De Swydd Lanark, ar lan Afon Clud, tua 1.4 milltir (2.2 km) o Lanark.

New Lanark
NewlanarkNL06.jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir De Swydd Lanark, Lanark Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau 55.66°N 3.78°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
New Lanark

Sefydlwyd y pentref ym 1786 gan David Dale, ac adeiladodd felinau cotwm a thai ar gyfer y gweithwyr. Roedd o'n fanciwr o Glasgow. Ffurfiodd o bartneriaeth gyda Richard Arkwright, dyfeisydd y Ffrâm nyddu, ac roedd o'n ddylanwad mawr ar Chwyldro diwydiannol Lloegr. Crewyd melin gotwm, yn defnyddio pŵer Afon Clud, yn union fel gwnaeth Arkwright yn Cromford. Daeth eu partneriaeth i ben ar ôl blwyddyn, arhosodd Dale am 15 mlynedd arall, yn creu traddodiad ddyngarol yno.[1]

Priododd Caroline, merch David Dale, Robert Owen ym 1799, a ffurfiodd bartneriaeth i brynu’r melinau. O dan ddylanwad Robert Owen daeth New Lanark yn adnabyddus fel esiampl o weithredu er budd y gweithwyr. Creodd ddiwygiadau cymdeithasol, addysgol a gweithiol, a disgrifiodd y datblygiadau fel “the most important experiment for the happiness of the human race that has yet been instituted in any part of the world”. Credodd Owen bod New Lanark yn lle delfrydol i greu newid cymdeithasol, yn bell o ddinasoedd mawr, a defnyddiodd elw ei felinau i dalu am y fath newid. Lleihawyd y diwrnod gwaith i ddeg awr a hanner a sefydlwyd meithrinfa ar gyfer plant a oedd yn weithwyr cyn cyrhaeddiad Owen. Sefydlodd ffowndri haearn a gweithdy peirianwaith. Cyflogwyd meddyg, yn defnyddio cronfa i’w dalu. Cyfrannoddodd y gweithwyr at y gronfa, a chawsant hawl i gymryd pres ohoni pan oeddent y sâl. Crewyd llwybrau a choedwigoedd o gwmpas y melinau a rhoddwyd rhandiroedd i’r gweithwyr. [2]


Sefydlodd Owen ‘Institiwt i Ffurfio Cymeriad’ ym 1816, ac ysgol i’r plant ym 1817, yn rhoi addysg llawn amser i blant oedd yn gweithio cynt yn y melinau. Ni chaniatawyd gwaith gan blant o dan 10 oed yn y melinau. Ni chaniatawyd cosb gorfforol yn yr ysgol. Roedd cerddoriaeth, dawns, natur, hanes, daearyddiaeth celf, ysgrifennu, darllen a rhifyddeg yn rhan o’r cwricwlwm. Roedd dosbarthiadau nos ar gael i’r gweithwyr, yn ogystal â chyngerrdau, dawns, darlithoedd, a gwasanaethau crefyddol. Defnyddiwyd yr Institiwt hyd at 1968, pan gaeodd y melinau.[3]


Agorwyd siop y penref gan Owen tua 1813 yn gwerthu nwyddau o safon uchel am brisiau rhesymol i’r gweithwyr. Roedd y siop yn llwyddiannus a chyfrannodd at gostiau addysg y gweithwyr. Llogwyd y siop i Gymdeithas Ddarbodus Gyd-weithiol Lanark ym 1933.[4]


Gwerthodd Owen y melinau i’r brodyr Walker, Crynwyr yn rhannu syniadau socialydd Owen,ym 1825, a symudodd i’r Unol Daleithiau er mwyn creu cymuned debyg yn New Harmony, Indiana. Ar 16 Mai, 1881, prynwyd y melinau gan Birkmyre a Somerville, perchnogion Cwmni Nyddu Lanark am £20,000. Cadwasant at egwyddorion Owen, gwnaethant waith moderneiddio a chreu mwy o amrywiaeth yng nghynnyrch y melinau.[5]


Erbyn 1799, roedd New Lanark y felin gotwm fwyaf yn yr Alban, ac un o ffatrioedd mwyaf y byd. Roedd mwy na 2,000 o bobl yn byw neu weithio yn y pentref. Cynhyrchwyd cotwm yno am bron 200 mlynedd, hyd at 1968.[6]. Caeodd y melinau cotwm ym 1968. Adferwyd y rhan fwyaf o'r pentref fel atyniad i ymwelwyr, ac fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.[7][8]


Sefydlwyd Ymddiriedolaeth New Lanark ar 21 Mehefin1984 i hwrwyddo adferiad a chadwraeth y pentref.[9] Mae gan yr yddiriedolaeth 3 is-gwmni, sy’n hwyluso comuned a gwaith y pentref, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, tai, gwesty, twristiaeth, pŵer hydroelectrig a chynhyrchu.[10][11]


OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan New Lanark
  2. Gwefan New Lanark
  3. Gwefan New Lanark
  4. Gwefan New Lanark
  5. Gwefan New Lanark
  6. Gwefan historicenvironment.scot
  7. "New Lanark". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
  8. Gwefan undiscoveredscotland.co.uk
  9. Gwefan OSCR
  10. Gwefan newlanarkspinning.com
  11. Gwefan aspenpeople.co.uk

Dolen allanolGolygu