Robert Price (barnwr)

barnwr

Roedd Robert Price (14 Ionawr 1653 - 2 Chwefror 1733) yn farnwr a gwleidydd o Gymru.[1]

Robert Price
Ganwyd14 Ionawr 1653 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1733 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1701-02, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganed Robert Price, yn gynnar yn y flwyddyn 1653 (1654 yn ôl Calendr Gregori). Roedd yn fab hynaf Thomas Price o'r Giler yng Ngherrigydrudion, Sir Ddinbych a Margaret, unig blentyn Thomas Wynn o Fwlch y Beudy yn yr un plwyf.[2] Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhuthun a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt.[3] Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn cyn mynd ar y Daith Fawr (arfer gan ŵyr ifanc bonheddig o fynd ar daith estynedig trwy wledydd Ewrop).[4]

Ar 23 Medi 1679 priododd Price â Lucy, merch hynaf a chyd aeres Robert Rodd o Foxley yn Yazor, Swydd Henffordd gan Ann Sophia, unig blentyn Thomas Neale o Warnford, Hampshire. Bu farw Robert Rodd ddwy flynedd yn ddiweddarach ac etifeddodd Price ystâd Foxley. Bu iddynt dau fab ac un ferch. Ym 1690, cafodd Lucy perthynas tu allan i briodas gyda chefnder iddi, o'r enw Mr Neale [5] a chafwyd plentyn o'r berthynas. O ganlyniad i odineb ei wraig, gwahanodd y cwpl ond ni chawsant ysgariad a pharhaodd Price i ddarparu ar ei chyfer hi a'u plant am weddill ei oes ac wedyn yn ei ewyllys.

Yn 1682 penodwyd Price yn Dwrnai Cyffredinol ar gyfer De Cymru, yn ogystal â henadur dinas Henffordd; y flwyddyn ganlynol daeth yn Gofiadur Sir Faesyfed, Bu'n gwasanaethu fel stiward i Catherine o Braganza, gweddw y Brenin Siarl II, ym 1684; fel clerc tref Caerloyw ym 1685. Ym 1686 fe'i penodwyd yn Gwnsler y Brenin ar gyfer Llwydlo ym 1686 a thrwy'r penodiad daeth yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau

Collodd Price ei swydd fel Twrnai Cyffredinol a phob un o'i swyddi eraill ym 1688 wedi iddo syrthio allan efo'r Brenin Iago II.

Daeth i fri yn ei wlad enedigol ym 1695 wrth iddo geisio atal y brenin William III rhag rhoi ystadau mawr yng Nghymru i'w ffefryn o'r Iseldiroedd, iarll Portland. Gwrthwynebodd Price y grant yn y Trysorlys, gan ddadlau ei achos ym mis Mai 1695. Ar 14 Ionawr 1696 cyflwynodd ddeiseb gan rydd-ddeiliaid a thrigolion Sir Ddinbych yn erbyn y grant. Sicrhaodd gwrandawiad gan y brenin a'i perswadiodd i ddod o hyd i ffordd arall o yn gwobrwyo Portland. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd araith Price i'r brenin ym 1702 o dan y teitl Gloria Cambriae, neu, Araith gan Frython yn y Senedd yn erbyn Tywysog yr Iseldiroedd yng Nghymru.[5]

Gwasanaethodd Robert Price fel Aelod Seneddol etholaeth Weobley ar dair achlysur rhwng 1685 a 1702 [6] pan ymddiswyddodd o'r Senedd wedi iddo gael ei benodi yn Farwn y Trysorlys gan y Frenhines Anne ar ei dyrchafiad i'r orsedd. Ym 1726 daeth yn ustus ar Lys y Pledion Cyffredin.

 
Cofeb Price, Cerrigydrudion

Marwolaeth

golygu

Bu farw Price yn Kensington ym mis Chwefror 1732 (1733, Calendr Gregori) a chladdwyd ef yn Yazor. Mae cofeb iddo yn Eglwys y Santes Fair Magdalen, Cerrigydrudion.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davies, W. Ll., (1953). PRICE, ROBERT (1655 - 1733), barnwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Meh 2019
  2. Griffith, John Edwards (1914): Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families. Horncastle: Morton & Sons
  3. "Price, Robert (PRY672R)". A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge adalwyd 16 Mehefin 2019
  4. Parch. Robert Williams, Enwogion Cymru (Llanymddyfri: William Rees, 1852)
  5. 5.0 5.1 Handley, S. (2007, May 24). Price, Robert (1655–1733), judge and politician. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd16 Mehefin. 2019
  6. The History of Parliament: the House of Commons 1690-1715, PRICE, Robert (1653-1733), of Foxley, Yazor, Herefs. adalwyd 16 Mehefin 2019