Robert Rees (Eos Morlais)
canwr Cymreig (Eos Morlais)
Roedd Robert Rees (5 Ebrill 1841 — 5 Mehefin 1892) yn denor a cherddor o Gymro. Roedd yn gystadlwr brwd a llwyddiannus o amgylch yr eisteddfodau lle fabwysiadodd y ffugenw Eos Morlais. [1][2]
Robert Rees | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1841 Dowlais |
Bu farw | 5 Mehefin 1892 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, glöwr |
Math o lais | tenor |
Bywyd
golyguCafodd Rees ei eni ar 5 Ebrill yn 1841 yn Dowlais, Merthyr Tudful, yn fab i Hugh a Margaret Rees. Bu farw ei dad pan oedd yn wyth mlwydd oed a'i fam yn fuan wedyn. Pan oedd yn naw dechreuodd weithio yn y pyllau glo, ond oherwydd ei dalent canu ac adrodd, cafodd wersi cerddoriaeth gan ei ewythr.
Bu Rees yn canu o amgylch Cymru a Lloegr ac fe berfformiodd ar daith yng Ngogledd America. Bu farw yn ei gartref yn Abertawe ar 5 Mehefin 1892.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The History of the National Anthem". Rhondda Cynon Taf Library Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2011. Cyrchwyd 27 December 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Griffith, R. D., (1953). REES, ROBERT (‘Eos Morlais’; 1841 - 1892). Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 7 Awst 2019