Robert Shields VC (1827 - 23 Rhagfyr 1864) oedd y Cymro cyntaf i ennill medal Croes Fictoria, y wobr uchaf a mwyaf mawreddog am ddewrder yn wyneb y gelyn y gellir ei ddyfarnu i aelodau o luoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad.

Robert Shields
Ganwyd1827 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Rhagfyr 1864 Edit this on Wikidata
Mumbai Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Grant Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria Edit this on Wikidata

Ganwyd Shields yn Nhafarn yr Hope & Anchor, Heol y Santes Fair Caerdydd, yn fab i John Sheilds ac Anne ei wraig. Ni wyddys union ddiwrnod ei enedigaeth ond fei bedyddiwyd yn Eglwys St Ioan a St Mair Caerdydd ar 26 Awst 1827.

Roedd Shields yn Gorporal 29 oed yn y 23rd Regiment of Foot (rhagflaenydd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) yn ystod Rhyfel y Crimea pan ddigwyddodd y weithred a arweiniodd at ddyfarnu Croes Fictoria iddo. Ar 8fed Medi 1855 yn Sebastopol gwirfoddolodd Corporal Shields i fynd allan gyda'r Llawfeddyg Cynorthwyol William Henry Thomas Sylvester i ran agored a pheryglus o'r ffrynt i geisio achub swyddog a glwyfwyd, yn anffodus pan ddaethpwyd o hyd i'r swyddog canfuwyd ei fod yn farw. Cafodd y Llawfeddyg Sylvester ei anrhydeddu efo'r VC hefyd.[1]

Wedi ei wasanaeth yn y Crimea aeth Sheilds ymlaen i wasanaethu fel milwr yn yr India, lle bu farw yn 39 oed o sgil effeithiau gor-yfed. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Gadeiriol St Thomas, Bombay (Mumbai bellach).

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu