Y Groes Fictoria (VC) yw'r addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig[1]. Mae'r VC yn cael blaenoriaeth ar unrhyw urdd, anrhydedd neu fedal arall. Gall person o unrhyw reng milwrol yn unrhyw un o'r lluoedd arfog, yn ogystal ag unrhyw aelod sifil sy'n gweithio o dan reolaeth milwrol, ennill y VC[1].

Croes Fictoria
Enghraifft o'r canlynolgwobr militaraidd, gwobr am ddewrder, cross Edit this on Wikidata
Mathanrhydeddau a medalau milwrol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Deunyddefydd Edit this on Wikidata
Label brodorolVictoria Cross Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Ionawr 1856 Edit this on Wikidata
SylfaenyddFictoria, brenhines y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enw brodorolVictoria Cross Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyflwynwyd y VC am y tro cyntaf ar 29 Ionawr 1856 gan Brenhines Fictoria er mwyn anrhydeddu gweithredoedd arwrol yn ystod Rhyfel y Crimea. Cyn hyn dim ond swyddogion oedd yn gymwys i dderbyn yr anrhydedd uchaf, sef Urdd y Baddon. Roedd nifer o wledydd Ewropeaidd yn cyflwyno anrhydeddau nad oedd yn gwahaniaethau ar sail eu rheng nag ar sail dosbarth cymdeithasol; roedd gan Ffrainc y Légion d'honneur (Lleng Anrhydedd) ac roedd Yr Iseldiroedd yn cyflwyno Militaire Willems-Orde (Urdd William).

Cafwyd y seremoni cyntaf ar 26 Mehefin 1857 wrth Frenhines Fictoria urddo 62 o'r 111 milwr o Ryfel y Crimea yn Hyde Park, Llundain. Bellach, mae'r fedal wedi ei chyflwyno 1,358 o weithiau i 1,355 o unigolion. Dim ond 15 medal sydd wedi eu cyflwyno ers Yr Ail Ryfel Byd, 11 i aelodau Byddinoedd Prydain a phedwar i aelodau Byddinoedd Awstralia.

Credir fod y medalau wedi eu bathu o fetal canon Rwsiaidd a gafodd ei gipio yn ystod Gwarchae Sevastopol, ond mae ymchwil diweddar yn awgrymu mai canonau Tsieneiaidd yw tarddiad metal nifer ohonynt[2].

Edrychiad

golygu

Mae'r addurn yn groes pattée efydd, 41mm (1 39/64") o uchder, 36mm (1 27/64") o led, yn dangos coron Sant Edward gyda llew uwchben a chyda'r arysgrif FOR VALOUR. Y geiriau FOR THE BRAVE oedd i fod i ymddangos yn wreiddiol hyd nes i'r Frenhines Fictoria ofyn am y newid rhag awgrymu nad oedd pob person mewn brwydr yn ymddwyn yn ddewr[3]. Mae'r addurn, y bar crog a'r ddolen yn pwyso tua 27g (0.87owns)[4]

Mae'r groes wedi ei chrogi ar gylch sy'n cysylltu â "V" ar far sydd wedi'i haddurno â dail llawryf. Ar gefn y bar, llae mae'r rhuban yn cael ei bwydo, ceir enw, rheng, rhif ac uned y derbynnydd[5]. Ar gefn y medal mae panel crwn lle torrir dyddiad y weithred arwrol[5].

Mae'r rhuban yn rhuddgoch, 38mm (1 1/2") o led. Yn wreiddiol (1856) roedd y rhuban i fod yn goch i aelodau'r fyddin ac yn las tywyll i aelodau'r llynges, ond diddymwyd y rhuban glas tywyll wedi ffurfio'r Llu Awyr Brenhinol ar 1 Ebrill 1918. Ar 22 Mai 1920 arwyddodd Sior V warant yn cyhoeddi y byddai pob derbynnydd o hyn ymlaen yn derbyn rhuban coch a bod angen i pob aelod o'r llynges oedd eisoes wedi derbyn VC i gyfnewid eu rhuban glas tywyll am un coch[6].

Er fod gwarantau'r fyddin yn datgan mai "coch" yw lliw y rhuban, fe'i ddigrifiwyd yn swyddogol fel rhuban "rhuddgoch".[7]

Deiliaid Cymreig

golygu
 
James Hill Johnes, VC yn ymosod ar y gelyn (paentiad olew gan James Nowlan, 1893, o gasgliad LlGC)

Nid oes modd dod i gasgliad pendant am y nifer o Gymry sydd wedi eu hurddo â'r VC gan fod nifer o filwyr di-Gymraeg gyda chatrawdau Cymreig a hefyd nifer o filwyr di-Gymraeg oedd yn byw yng Nghymru wedi eu cynnwys gan sawl cyfeirlyfr ymysg y rhestrau o Gymry gafodd eu hurddo. Syr Hugh Rowlands oedd y Cymro cyntaf i gael ei urddo yn dilyn gweithred yn ystod Rhyfel y Crimea, er i Robert Shields o Gaerdydd - yr ail Gymro i gael ei urddo - dderbyn ei fedal cyn Syr Hugh.

Yr un weithred filwrol y mae pawb yn ystyried ei fod yn Gymreig yw'r amddiffyniad o Rorkes Drift yn ystod Rhyfel y Zulu ym 1879 - lle enillwyd 11 VC gan aelodau o gartrawd Cyffinwyr De Cymru ac a anfarwolwyd yn y ffilm Zulu ond dim ond tri o'r unarddeg sy'n cael eu hystyried yn Gymry, bellach.

Dyma restr o rai o'r Cymry sydd wedi eu hanrhydeddu trwy ddyfarnu Croes Fictoria iddynt[8][9]

(Mae'r rhestr yn anghyflawn gellir helpu Wicipidia trwy ychwanegu ato)

Enw Blwyddyn Rhyfel Brwydr Gwlad
Syr Hugh Rowlands 1857 Rhyfel y Crimea Inkerman Rwsia
Robert Shields 1857 Rhyfel y Crimea Sesbastopol Rwsia
Jacob Thomas 1857 Gwrthryfel India Rhyddhad Lucknow India
James Hills-Johnes 1857 Gwrthryfel India Gwarchae Delhi India
William Wilson Allen 1879 Rhyfeloedd y Zulu Rorke's Drift De'r Affrig
Robert Jones 1879 Rhyfeloedd y Zulu Rorke's Drift De'r Affrig
John (Fielding) Williams 1879 Rhyfeloedd y Zulu Rorke's Drift De'r Affrig
Llewellyn Alberic Emilius Price-Davies 1901 Rhyfel y Boer Blood River De'r Affrig
Frederick Barter 1915 Y Rhyfel Byd Cyntaf Festubert Ffrainc
Robert James Bye 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Yser Canal Gwlad Belg
James Llewellyn Davies 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Polygon Wood Gwlad Belg
Lewis Pugh Evans 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Zonnebeke Gwlad Belg
William Charles Fuller 1914 Y Rhyfel Byd Cyntaf Chivy-sur-Aisne Ffrainc
Hubert William Lewis 1916 Y Rhyfel Byd Cyntaf Macukovo Gwlad Groeg
Ivor Rees 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Pilkem Gwlad Belg
Lionel Wilmot Brabazon Rees 1916 Y Rhyfel Byd Cyntaf Double Crassieurs Ffrainc
John Fox Russell 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Tel-el-Khuweilfeh Palesteina
Richard William Leslie Wain 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Cambrai/Marcoing Ffrainc
William Herbert Waring 1918 Y Rhyfel Byd Cyntaf Ronssoy Ffrainc
Henry Weale 1918 Y Rhyfel Byd Cyntaf Bazentin-le-Grand Ffrainc
John Henry (Jack) Williams 1918 Y Rhyfel Byd Cyntaf Villers Outreaux Ffrainc
William Williams 1917 Y Rhyfel Byd Cyntaf Yr Iwerydd Ffrainc
Bernard Armiage Warburton-Lee 1940 Yr Ail Ryfel Byd Ofot Fjord Norwy
John Wallace Linton 1943 Yr Ail Ryfel Byd HMS Turbulent Mor y Canoldir
Tasker Watkins 1944 Yr Ail Ryfel Byd Falaise Ffrainc
Edward Thomas Chapman 1945 Yr Ail Ryfel Byd Teutoburger Wald Yr Almaen

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 London Gazette. 2003-03-17.
  2. "Collections: Royal Naval Museum at Portsmouth Dockyards". 150 Years of the Victoria Cross. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-15. Cyrchwyd 2013-03-12.
  3. "150 years of the Victoria Cross". Royal Naval Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-15. Cyrchwyd 2015-02-13.
  4. Victoria Cross Heroes, Headline Book Publishing, awdur: Ashcroft, Michael, ISBN 0-7553-1632-0.
  5. 5.0 5.1 "The Victoria Cross". Vietnam Veterans Of Australia. 2007-06-15. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  6. "The Victoria Cross mentioned in newsletter" (PDF). Army Museum of Western Australia. 2006-09-01. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-03-07. Cyrchwyd 2015-02-13. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  7. "The Victoria Cross". Imperial War Museum Exhibits and Firearms Collections. 2006-09-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-27. Cyrchwyd 2015-02-13. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  8. Blog y BBC - Welsh Victoria Cross Winners adalwyd 16 Tach 2014
  9. Welsh Victoria Cross Recipients of WW1 adalwyd 16 Tach 2014