Robert de Boron
Bardd o Ffrainc o ddiwedd y 12g a dechrau'r 13g oedd Robert de Boron (hefyd *Borron", "Bouron" neu "Beron"). Cadwyd dwy gerdd o'i eiddo; Joseph d'Arimathe a Merlin; ond dim ond rhannau o Merlin sydd at ôl.
Robert de Boron | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Boron |
Bu farw | 13 g |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | bardd |
Adnabyddus am | Joseph d'Arimathie, ou le Roman de l'estoire dou Graal, Merlin |
Robert de Boron oedd yr awdur cyntaf i roi dimensiwn Cristnogol i hanes y Greal Santaidd. Dywed i Joseff o Arimathea ddefnyddio'r Greal, y llestr oedd wedi ei ddefnyddio yn y Swper Olaf, i ddal gwaed Iesu Grist pan oedd ar y groes. Cariodd teulu Joseff y Greal i Afallon, a uniaethir a Glastonbury.