Roberto Ibáñez
Bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Roberto Ibáñez (1907 – 28 Awst 1978). Roedd yn briod i'r bardd Sara de Ibáñez. Cysylltir ei waith â mudiad ultraísmo.[1]
Roberto Ibáñez | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1907 Montevideo |
Bu farw | 28 Awst 1978 |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Alma mater | |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol, athro, llenor, bardd |
Priod | Sara de Ibáñez |
Plant | Ulalume González de León |
Ganwyd ym Montevideo. Yn ei weithiau cynnar mae'n ymdrin â themâu cyffredin megis ieuenctid, serch, ac angau. Yn hwyrach yn ei yrfa, trodd at themâu cymdeithasol. Ymhlith ei gasgliadau o gerddi mae Olas (1925), La danza de los horizontes (1927), Mitología de la sangre (1939). Ibáñez oedd enillydd cyntaf gwobr Casa de las Américas am farddoniaeth, a hynny yn 1961 am ei gyfrol La frontera.[2] Gwasanaethodd yn swydd cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwiliadau ac Archifau Llenyddol, ac am gyfnod fe oedd yn gyfrifol am gyrsiau llenyddol yn ysgolion Wrwgwái.[1]
Cafodd ddylanwad pwysig ar feirniadaeth lenyddol yn Wrwgwái, fel un o'r cyntaf yn y wlad i drin â llên mewn dull ysgolheigaidd.[3] Bu'n sbarduno dadleuon gyda'i feirniadaeth, a chafodd ddadl enwog gydag Emir Rodríguez Monegal. Bu farw ym Montevideo.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) William H. Katra, "Ibáñez, Roberto (1902–1978)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Norah Giraldi Dei Cas, "Ibáñez, Roberto" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 270.
- ↑ Richard Young ac Odile Cisneros, Historical Dictionary of Latin American Literature and Theater (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2011), tt. 237–8