Robinson Crusoe

nofel gan Daniel Defoe

Nofel Saesneg o waith Daniel Defoe yw Robinson Crusoe am gymeriad o'r un enw a'i longddrylliad ar ynys unig. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn Ebrill 1719, ac ystyrir gan rai mai hon oedd y nofel gyntaf yn Saesneg. Ffurf y llyfr yw hunangofiant y prif gymeriad, Robinson Crusoe, oedd wedi treulio 28 mlynedd ar ynys fechan yn y trofannau yn dilyn llongddrylliad. Roedd cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yn llwyddiant masnachol ysgubol ac oherwydd y gwerthiant, cyhoeddwyd dair gwaith drachefn o fewn y flwyddyn gyntaf.

Tudalen deitl argraffiad cyntaf Robinson Crusoe

Credir i Defoe gael ei ddylanwadu gan hanes Alexander Selkirk, a dreuliodd bedair blynedd ar ynys Más a Tierra, Tsile. Efallai fod yr ynys y llongddrylliwyd Crusoe arni yn y nofel wedi ei seilio ar ynys Tobago. Dylanwad arall posibl oedd cyfrieithiad i'r Lladin neu Saesneg o waith Abubacer, Philosophus Autodidactas, oedd hefyd yn defnyddio ynys debyg fel cefndir. Yn ôl y llenor Gwyddelig James Joyce, roedd y nofel yn llawn propaganda o blaid ymlediad yr Ymerodraeth Brydeinig ledled y byd.[1]

Cyfieithiadau

golygu

Cyfieithwyd y nofel i lawer o ieithoedd, yn cynnwys Cymraeg:

  • Bywyd hynod a gweithredoedd rhyfeddol y dewr a'r gwrol Robinson Crusoe: Yr hwn a fu byw wyth mlynedd ar hugain mewn ynys anghyfannedd, yr hon wedi hynny a boblwyd ganddo ef. Cyfieithiad o addasiad Saesneg diweddarach sy'n gyfuniad o ddwy gyfrol gyntaf Defoe, ym 1795 gan J. Tye o Wrecsam. Ail-gyhoeddwyd cyfrolau eraill Cymraeg gan argraffwyr drwy'r 19g a rhywfaint yn yr 20g.
  • Bywyd ac anturiaethau rhyfeddol Robinson Crusoe: yr hwn a fyw byw wyth mlynedd ar hugain mewn ynys anghyfanedd.... gan H. Humphreys, Caernarfon.
  • Robinson Crusoe, wedi'i addasu gan Gwenno Hywyn, Clasuron Mawr y Plant (Gwasg Mynydd Mawr, 1983)

Cyfeiriadau

golygu