Rocky
Mae Rocky (1976) yn ffilm a ysgrifennwyd gan ac yn serennu Sylvester Stallone. Cyfarwyddwyd y ffilm gan John G. Avildsen. Adrodda hanes Rocky Balboa, sy'n dilyn y Freuddwyd Americanaidd. Chwarae Stallone rhan casglwr dyledion caredig sy'n gweithio i fenthyciwr arian diegwyddor yn Philadelphia. Mae Balboa hefyd yn ymladdwr mewn clybiau sy'n cael cyfle ym mhencampwriaeth pwysau trwm y byd pan mae'r cystadleuydd arall yn torri ei law.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | John G. Avildsen |
Cynhyrchydd | Robert Chartoff Irwin Winkler |
Ysgrifennwr | Sylvester Stallone |
Serennu | Sylvester Stallone Talia Shire Burt Young Carl Weathers Burgess Meredith |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | United Artists |
Dyddiad rhyddhau | 21 Tachwedd, 1976 |
Amser rhedeg | 120 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwnaed y ffilm am $1.1 miliwn, swm cymharol fechan, ac fe'i ffilmiwyd mewn 28 niwrnod. Gwnaeth y ffilm dros $117.2 miliwn yn y swyddfa docynnau, ac enillodd dair Oscar gan gynnwys y Ffilm Orau. Derbyniodd y ffilm feirniadaethau canmoladwy a daeth Stallone yn un o brif ser Hollywood. Arweiniodd y ffilm at bum ffilm ddilynol: Rocky II, III, IV, V, a Rocky Balboa.
Dolenni Allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Cefnogwyr Rocky
- Rocky @ Rotten Tomatoes
- Rocky @ yn y Sports Movie Guide Archifwyd 2010-10-08 yn y Peiriant Wayback
- ESPN.com Erthyglau Tudalen 2:
- Reel Life Rocky gan Jeff Merron
- The Making of Rocky gan Sylvester Stallone
- A Movie of Blood, Spit and Tears gan Royce Webb
- Six Little Known Truths about Rocky gan Ralph Wiley
- Which Rocky is the real champ? gan Bill Simmons