Roger Bacon

athronydd a diwinydd canoloesol (1220-1294)

Athronydd o Sais oedd Roger Bacon (tua 12201292), a adnabyddir gan yr acolâd Lladin Doctor Mirabilis, sy'n nodedig fel un o'r cyntaf i arddel arbrofoliaeth yn yr Oesoedd Canol.[1]

Roger Bacon
FfugenwDoctor Mirabilis Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1220 Edit this on Wikidata
Gwlad yr Haf, Ilchester, Bisley Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1292, 1294 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, ffisegydd, diwinydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, astroleg, alchemydd, cyfieithydd, dyfeisiwr, mathemategydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amOpus Majus, Opus Minus Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam of Sherwood Edit this on Wikidata
MudiadYsgolaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Ilchester, Gwlad yr Haf. Astudiodd fathemateg, cerddoriaeth, a seryddiaeth ym mhrifysgolion Rhydychen a Pharis. Addysgodd athroniaeth ym Mharis o 1240 i 1247, ac yn Rhydychen o 1247 i 1257. Ymchwiliodd i opteg ac alcemi, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i ddisgrifio'r broses o gynhyrchu powdwr gwn a'r cyntaf i argymell defnyddio drychau a lensys i ymchwilio i'r byd naturiol.

Ymunodd ag Urdd Sant Ffransis tua 1257. Bu'r urdd honno yn gwahardd astudiaethau am y byd meidrol ac ysgrifeniadau seciwlar, ond ar gais y Pab Clement IV fe gyflawnodd dri gwaith: Opus majus, Opus minus, ac Opus tertium. Cynigiodd gwricwlwm newydd ar gyfer prifysgolion Ewrop i addysgu mathemateg, ieithoedd (yn enwedig Groeg, Arabeg, ac Hebraeg), alcemi, a gwyddoniaeth, a hynny drwy ddulliau arsylw a mesur.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Roger Bacon. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2019.