Roger Cadwaladr
Ganwyd Roger Cadwaladr (1566 - 27 Awst 1610) yn Stretton Sugwas, Swydd Henffordd[1]. Wedi ymaelodi yn athrofa Reims yn 1590, a'i urddo'n offeiriad yn Valladolid yn 1593, bu'n gwasanaethu maes cenhadaeth Gororau De Cymru.
Roger Cadwaladr | |
---|---|
Ganwyd | 1568 Stretton Sugwas |
Bu farw | 27 Awst 1610 Llanllieni |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Gweithiai yn y Gymraeg a'r Saesneg a nifer o ieithoedd eraill.[2]
Yn 1610 fodd bynnag, fe'i cipiwyd oddi yno i garchar. Cyn hynny byddai'n bleidiol i'r Offeiriaid 'Appellant', 1600-03, ond gwrthwynebodd y clerigwyr eraill a'r Jeswitiaid. Newidiodd ei syniadau am hynny yn ddiweddarach, ac yn ystod ei garchariad, ac ar y dydd y condemniwyd ef i farwolaeth, cafodd ymweliad gan y Tad Robert Jones, pennaeth y Jeswitiaid yn Lloegr. Y Tad Jones hwn a ysgrifennodd hanes ei ddienyddiad yn Llanllieni (Leominster), 27 Awst 1610, mewn Eidaleg.
Ffynonellau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd Ebrill 2016.
- ↑ Yr Athro John McCafferty, Prifysgol Dulyn; adalwyd 28 Awst 2020.
- Catholic Record Society, xxv, 22;
- Foley, Records of the English province of the Society of Jesus (1570-1800), iv, 389-391;
- Challoner, Memoirs of Missionary Priests, ... and of other Catholics, ... that have suffered death in England, on religious accounts, from ... 1577 to 1684 (arg. 1924), 299-306.