Seiclwr rasio, perchennog siop a cyfanwerthwr darnau beic Seisnig oedd Ron Kitching (ganwyd 14 Ebrill 1916,[1] Barrow-in-Furness, Cumbria - bu farw 17 Rhagfyr 2001, Gogledd Swydd Efrog).[2] Roedd Kitching yn llwyddiannus yn y 1930au a bu'n bencampwr ar y ffordd yn y Treial Amser. Defnyddiod ei brofiad fel rasiwr i sefydlu siop feic yn Harrogate ac wedyn cwmni cyfanwerthu yn mewnforio ac allforio nwyddau beic. Roedd catalog Everything Cycling Ron Kitching yn boblgaidd iawn, bron fel breuddwyd ar gyfer seiclwyr. Noddodd Ron nifer o seiclwyr a rasus gyda'i enillion fel cyfanwerthwr llwyddiannus, gan gynnwys yr enwog Beryl Burton.

Ron Kitching
Ganwyd14 Ebrill 1916 Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 2001 Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ers canol y 1990au, Kitching oedd noddwr a chymwynaswr hael y British Schools Cycling Association.

Mae clwb feics Otley yn rhedeg amgueddfa 'Llyfrgell Ron Kitching'.

Ysgriffenwyd bywgraffiad Ron Kitching, A Wheel in Two Worlds: The Ron Kitching Story gan Michael Breckon yn 1993.

Canlyniadau golygu

1944
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain

Cyfeiriadau golygu

  1. Mynegai marwolaethau Cymru a Lloegr Rhagfyr 2001, Ardal Gogledd Efrog, Rhif Cofrestr D5, Rhif Cofnod 236.
  2. Trade legend dies, bikebiz.com[dolen marw]
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.