Ron Stitfall
Pêl-droediwr Cymreig oedd Ronald Frederick "Ron" Stitfall (14 Rhagfyr 1925 – 22 Mehefin 2008).[1]
Ron Stitfall | |
---|---|
Ganwyd | Ronald Frederick Stitfall 14 Rhagfyr 1925 Caerdydd |
Bu farw | 22 Mehefin 2008 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Dinas Caerdydd, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd.
Roedd Stitfall yn cefnogi Dinas Caerdydd fel bachgen ifanc, gwyliodd e nhw ym Mharc Ninian yn aml cyn ymuno â’r clwb ym 1939. Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd e mewn gemau cyfeillgar cyn ymuno â’r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd ei gêm broffesiynol gyntaf e ym mis Hydref yn lle Alf Sherwood a oedd i ffwrdd ar ddyletswydd rhyngwladol dros Gymru yn erbyn Bradford City. Gorffennodd y gêm yn 0-0 ar ôl i Stitfall flocio’r bêl ar y llinell yn hwyr yn y gêm. Aeth Ron Stitfall ymlaen i chwarae mewn nifer o safle yn ystod ei yrfa cynnar. Yn nhymor 1949/1950 chwaraeodd fel ymosodwr blaen a sgoriodd e 5 gôl. Er gwaethaf y sbel hwn aeth e ymlaen i sgorio dim ond 8 gôl yn ystod ei yrfa. Chwaraeodd e 402 gêm dros Ddinas Caerdydd. Chwaraeodd ei frawd e Albert yn yr un tîm Caerdydd gyda Ron a chwaraeodd eu brawd nhw Bob dros yr ail dîm.
Gyrfa ryngwladol
golyguDros Cymru, chwaraeodd Ron 2 waith, y tro cyntaf yn erbyn Lloegr, collon nhw 5-2. Daeth ei gêm olaf e dros Cymru 5 mlynedd yn ddiweddarach yn erbyn Tsiecoslofacia. Pan ymddeolodd o chwarae hyfforddodd dîm ieuenctid Caerdydd a oedd y cynnwys John Toshack, yna hyfforddodd dîm ieuenctid Casnewydd a thîm ieuenctid Cymru hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "FAW mourn defender Ron Stitfall" (yn Saesneg). BBC Sport. 24 Mehefin 2008. Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.