Bardd Iddewig a sgwennai mewn Almaeneg oedd Rose Ausländer (11 Mai 1901 - 3 Ionawr 1988).

Rose Ausländer
Ganwyd11 Mai 1901 Edit this on Wikidata
Chernivtsi Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Düsseldorf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Chernivtsi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Andreas Gryphius, Ida-Dehmel-Literaturpreis, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Gwobr Roswitha, Gwobr Droste Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn Chernivtsi, gorllewin yr Wcráin ar 11 Mai 1901 a bu farw yn Düsseldorf, Nordrhein-Westfalen, yr Almaen. Bu'n byw mewn ardal cythryblus iawm, yn enwedig i Iddewon, ardal a fu yng ngwladwriaeth Awstria-Hwngari (1867 hyd 1918 ), Teyrnas Rwmania (1881-1947) ac yna'r Undeb Sofietaidd.[1][2][3][4][5][6]

Magwraeth golygu

Almaeneg oedd iaith y teulu. Roedd ei thad Süssi Scherzer (1871–1920) yn dod o dref fechan ger Czernowitz, yn ardal Bukovina, a ganwyd ei mam Kathi Etie Rifke Binder (1873–1947) yn Czernowitz i deulu a siaradai Almaeneg. O 1907 i 1919 aeth i'r ysgol yn Czernowitz. Yn 1916 ffodd ei theulu rhag Byddin Rwsia, i Fienna, ond dychwelodd i Cernauti, Bukovina ac a ddaeth yn rhan o Deyrnas Rwmania.[7][8]

Yn 1919, dechreuodd astudio llenyddiaeth ac athroniaeth yn Cernauti. Datblygodd ddiddordeb gydol oes yn yr athronydd Constantin Brunner. Ar ôl i'w thad farw ym 1920 gadawodd y brifysgol.

Priodi ac ymfudo golygu

Yn 1921, ymfudodd i Unol Daleithiau America gyda'i chyfaill prifysgol, a'i darpar ŵr, Ignaz Ausländer. Yn Minneapolis, bu'n gweithio fel golygydd y papur newydd Almaeneg Westlicher Herold a chyfranodd i'r antholeg Amerika-Herold-Kalender nifer o gerddi. Yn 1922, symudodd gydag Ausländer i Ddinas Efrog Newydd, lle priododd y ddau ar 19 Hydref, 1923. Gwahanodd hi ac Ausländer dair blynedd yn ddiweddarach, pan oedd yn 25 oed, ond cadwodd ei enw olaf (ei chyfenw). Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1926.

Rhwng 1926-28 dychwelodd adref i Cernauti i ofalu am ei mam gwael. Yno, cyfarfu â'r graffolegydd Helios Hecht, a ddaeth yn bartner iddi. Yn 1928 aeth yn ôl i Efrog Newydd gyda Hecht. Cyhoeddodd gerddi yn y New Yorker Volkszeitung ac yn y papur dyddiol, sosialaidd Cernauti tan 1931.[9]:7

Yn 1931, dychwelodd i ofalu am ei mam eto, gan weithio i'r papur newydd Czernowitzer Morgenblatt tan 1940. Collodd ei dinasyddiaeth yn yr Unol Daleithiau erbyn 1934, gan nad oedd wedi bod yn yr Unol Daleithiau ers dros 3 blynedd. Gwahanodd oddi wrth Hecht y flwyddyn honno: 1936 a gadawodd i Bucharest.

Y llenor golygu

Yn 1939, cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Der Regenbogen (Yr Enfys) gyda chymorth ei noddwr, yr awdur Alfred Margul-Sperber. Er i feirniaid ei dderbyn yn ffafriol, ni chafodd ganmoliaeth gan y cyhoedd. Cafodd y rhan fwyaf o'r llyfrau eu dinistrio pan feddiannodd yr Almaen Natsïaidd Cernauti yn 1941.[10]

O Hydref 1941–44, bu'n gweithio fel labrwr-gorfodol (Zwangsarbeiter) yn y ghetto yn Cernauti. Arhosodd yno gyda'i mam a'i brawd am ddwy flynedd, a blwyddyn arall ar ffo, yn cuddio rhag y Natsiaid, rhag iddi gael ei danfon i wersylloedd crynhoi'r Natsïaid.[9]

Yn 1963, treuliodd amser yn Fienna, lle cyhoeddodd ei llyfr cyntaf ers 1939. Canmolwyd ei gwaith, Blinder Sommer (haf dall) yn frwdfrydig.[9][10]

Ysgrifennodd dros 3,000 o gerddi, ac yn eu plith:

  • Der Regenbogen, 1939.
  • Blinder Sommer, 1965.
  • Brief aus Rosen
  • Das Schönste
  • Denn wo ist Heimat?
  • Die Musik ist zerbrochen
  • Die Nacht hat zahllose Augen
  • Die Sonne fällt
  • Gelassen atmet der Tag
  • Hinter allen Worten
  • Sanduhrschritt
  • Schattenwald
  • Schweigen auf deine Lippen
  • Treffpunkt der Winde
  • Und nenne dich Glück
  • Wir pflanzen Zedern
  • Wir wohnen in Babylon
  • Wir ziehen mit den dunklen Flüssen'
  • Herbst in New York'
  • An ein Blatt
  • Anders II

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Andreas Gryphius (1977), Ida-Dehmel-Literaturpreis (1977), gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria (1984), Gwobr Roswitha (1980), Gwobr Droste (1967) .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_20. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Rose Ausländer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rose Ausländer". "Rose Ausländer". "Rose Ausländer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034630m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Rose Ausländer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Rose Ausländer". "Rose Ausländer". "Rose Ausländer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  7. Rose Ausländers Leben und Dichtung (Rose Ausländer life and poetry). "Ein denkendes Herz, das singt" ("Calon y meddwl sy'n canu")]
  8. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015
  9. 9.0 9.1 9.2 Bolbecher, Siglinde; Kaiser, Konstantin (2002). "Rose Ausländer" (PDF). Lexikon der Österreichischen Literatur im Exil. (yn German). Universität Salzburg. t. 205. Cyrchwyd 11 Mai 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
  10. 10.0 10.1 "Rose Ausländer". Lyrikline.org. Literaturwerkstatt Berlin. n.d. Cyrchwyd 11 Mai 2016.