Ross Moriarty
Chwaraewr rygbi'r undeb o Loegr sydd wedi chwarae dros Gymru yw Ross Moriarty (ganwyd 18 Ebrill 1994). Mae'n chwarae yn y rheng ôl, fel arfer fel wythwr. Mae ar hyn o bryd yn chwarae dros Ddreigiau Casnewydd Gwent.
Ross Moriarty | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ebrill 1994 St Helens |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 188 centimetr |
Pwysau | 106 cilogram |
Tad | Paul Moriarty |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Gloucester Rugby, England national under-18 rugby union team, England national under-20 rugby union team, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Wythwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd Moriarty yn St Helens, Glannau Merswy tra roedd ei dad, oedd hefyd wedi chwarae rybgi dros Gymru, Paul Moriarty, yn chwarae rygbi'r gynghrair yng ngogledd Lloegr. Mae Moriarty hefyd yn nai i gyn gapten Cymru, Richard Moriarty.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gynradd Glyncollen ac Ysgol Gyfun Treforys yn Abertawe. Dechreuodd chwarae rygbi pan oedd yn ddeg oed gan chwarae i Ysgolion Abertawe ac Ysgolion Gorllewin Cymru. Chwaraeodd hefyd ar lefel iau yng Nghlwb Rygbi Gorseinon.
Gwnaeth Moriarty ei ymddangosiad cyntaf i Gaerloyw ar 10 Tachwedd 2012 yn erbyn y Gweilch. Ni chwaraeodd i Gaerloyw yn rheolaidd yn ystod ei dymor cyntaf, ond roedd chwarae'n rheolaidd gyda Hartpury RFC , lle'r oedd yn fyfyriwr.
Ar 27 Tachwedd 2017, gadawodd Moriarty Gaerloyw i ymuno â Dreigiau yn y Pro14 ar gytundeb canolog dwy flynedd URC o dymor 2018-19 ymlaen.[1]
Gyrfa ryngwladol
golyguChwaraeodd Moriarty i Loegr a lefel dan-18. Enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Ffrainc yn Fylde ym mis Chwefror 2012. Aeth ymlaen i sgorio ceisiau yn erbyn yr Alban a Chymru yn ei bedwar ymddangosiad cyntaf, a helpodd Lloegr i ddod yn bencampwyr Ewropeaidd yn Sbaen.
Dechreuodd y ddwy gêm gyntaf i Loegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar lefel dan-20 yn 2013, ond nid oedd ar gael ar gyfer y tair gêm ddiwethaf am iddo gael cerdyn coch yn erbyn Iwerddon yn Athlone. Chwaraeodd ym mhob gêm o Bencampwriaeth Iau y Byd IRB 2013 a sgoriodd dri chais yn erbyn yr Unol Daleithiau mewn gêm grŵp.
Enillodd Moriarty Bencampwriaeth Iau y Byd gyda Lloegr yn 2014.[2][3]
Fodd bynnag, gwnaeth Moriarty ei ymddangosiad cyntaf llawn mewn gêm ryngwladol pan chwaraeodd i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 8 Awst 2015.[4] Ar 15 Medi 2015, cafodd ei ddewis i gymryd lle Eli Walker yng ngharfan Cwpan Rygbi'r Byd 2015 wedi i Walker ddioddef anaf.[5]
Dechreuodd Moriarty bob gêm heblaw am yr un yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sichrau'r Gamp Lawn i Gymru am y tro cyntaf ers 2012.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wales back-row Ross Moriarty leaving Gloucester to join Dragons". Telegraph. 27 November 2017. Cyrchwyd 10 December 2017.
- ↑ "England Under-20s vs South Africa Under-20s - Report - U20s World Championship 2014 2014 - 20 Jun, 2014 - ESPN". ESPN.com.
- ↑ "Junior World Championship: England 21-20 South Africa". 20 June 2014.
- ↑ "Wales 21-35 Ireland". BBC Sport. 8 August 2015. Cyrchwyd 3 September 2015.
- ↑ "Rugby World Cup 2015: Eli Walker out of Wales squad". BBC. 15 September 2015. Cyrchwyd 15 September 2015.