An Ros Mór
Pentref bychan a threfdir yn Swydd Tipperary/Contae Thiobraid Árran yn Iwerddon yw An Ros Mór (Gwyddeleg) neu Rossmore (Saesneg)[1]. Ystyr An Ros Mór yw "y goedwig fawr". Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Clonoulty, barwniaeth Kilnamanagh Lower.[2] Fe'i lleolir yn adran etholiadol (ED) Gorllewin Clonoulty. Mae hefyd yn ffurfio hanner plwyf Clonoulty a An Ros Mór/Rossmore yn Archesgobaeth Babyddol Cashel ac Emly.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | South Riding of Tipperary |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Uwch y môr | 130 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 52.620105°N 8.001967°W |
Lleoliad daearyddol
golyguGweinyddir An Ros Mór gan Gyngor Sir Tipperary, ac mae o fewn ffiniau etholaeth Tipperary at ddibenion etholiadau cyffredinol Iwerddon.
Mae An Ros Mór bron yn union yr un pellter o'r tair tref agosaf. Mae Cashel 12 cilomedr i'r de-ddwyrain, mae Thurles 13 cilomedr i'r gogledd-ddwyrain, a Thref Tipperary 14 cilomedr i'r de-orllewin. Yr orsaf reilffordd agosaf yw gorsaf reilffordd Thurles, sydd â chysylltiadau aml ac uniongyrchol â thair dinas fwyaf Iwerddon: Dulyn/Baille átha Cliath, Corc/Corcaigh, a Limerick/Luimneach .
Gall An Ros Mór hefyd gyfeirio at ardal ychydig yn fwy sy'n ffurfio hanner clwb GAA Clonoulty-Rossmore. Mae'r defnydd o'r enw An Ros Mór yn yr achosion hyn yn cwmpasu nifer o drefi eraill gan gynnwys An Ros Mór ei hun, ynghyd â Glenough, Turraheen, Knockbawn, Toragh, Doorish, Westonslot, Gorteenamoe, An Drum, Drumwood, Tooreen, Coolanga, Clundarby, Brockagh, Park, a Stouke.
Cyfleusterau lleol
golyguMae'r pentref yn cynnwys ysgol genedlaethol, swyddfa bost, lôn pêl raced, safle awyru perllan dawel, eglwys Gatholig Rufeinig, a thafarn. Mae Ysgol Genedlaethol An Ros Mór yn ysgol gynradd sydd wedi cynnwys dwy ysgol arall yn agos ati dros y tri degawd diwethaf - Ysgol Genedlaethol Glenough, ac Ysgol Genedlaethol Turraheen. Mae mwyafrif y plant o ardal An Ros Mór yn teithio i Thurles neu Caiseal/Cashel ar gyfer addysg ail lefel. Mae gwasanaethau bws yn dod â disgyblion i ysgolion uwchradd yn y trefi hyn.[ dyfyniad sydd ei angen ]
Ardal amaethyddol yn bennaf yr An Ros Mór gydag amryw o ffermydd llaeth a da byw Llifai Afon An Moiltín/Multeen, sy'n isafon i Afon Suir drwy'r pentref, gan redeg heibio Neuadd Gymuned An Ros Mór, gan barhau i lifo o dan Pont An Ros Mór. Daw'r Afon An Moiltín i gyfarfod ag afon Suir yn nhref Cashel.
Y gamp tîm mwyaf poblogaidd yn yr ardal yw hyrddio, gyda hyrddwyr o An Ros Mór wedi cynrychioli tîm hurling GAA Tipperary ar bob lefel oedran.
Enwau Saesneg a Gwyddeleg lleoedd ac afonydd a nodwyd yn yr erthygl hwn:
Brockagh - An Bhrocach
Cashel - Caiseal
Clunedarby - (dim ar gael)
Clonoulty - Cluain Abhla
Coolanga - Cúil Eanga Íochtarach/Uachtarach
Corc - Corcaigh
Doorish - Dúrois
Drum - An Drom
Drumwood - Coill an Droma
Dulyn - Baile átha Cliath
Emly - Imleach
Glenough - Gleann Achaidh Íochtarach/Uachtarach
Gorteenamoe - (dim ar gael)
Iwerddon - Éire
Kilnamanagh Lower - Coill na Manach Íochtarach
Knockbawn - An Cnoc Bán
Limerick - Luimneach
Multeen - An Moiltín
Park - (dim ar gael)
Rossmore - An Ros Mór
Stouke - An Stuaic
Suir - An tSiúir
Thurles - Durlas
Tipperary - Thiobraid Árann
Tooreen - An Tuairín
Toragh - Tuaraigh
Turraheen - Toirthín
Westonslot - Lota Uastúin[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "An Ros Mór/Rossmore". Placenames Database of Ireland (logainm.ie). Cyrchwyd 1 Ionawr 2022.
- ↑ Map of the Civil Parish