Ruth Bidgood

awdures o Gymru

Bardd o Gymraes sy'n cyfansoddi yn Saesneg oedd Ruth Bidgood (née Jones) (20 Gorffennaf 19224 Mawrth 2022).

Ruth Bidgood
Ganwyd20 Gorffennaf 1922 Edit this on Wikidata
Blaendulais Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cafodd Bidgood ei geni ym Mlaendulais, yn ferch i Parch William Herbert Jones.[1] Pan ddaeth yn ficer Eglwys y Santes Fair, Aberafan, symudodd y teulu i'r ardal Port Talbot, lle cafodd ei haddysg.

Priododd David Bidgood; prynasant fyngalo yn Abergwesyn, ger Llanwrtyd ym Mhowys. Yn ddiweddarach symudon nhw i Surrey. Bu iddynt ddau fab ac un ferch.[2]

Bu farw Bidgood yng nghartref preswyl Bryn Gwy yn Rhaeadr, yn 99 oed.[3][2]

Llyfryddiaeth golygu

  • The Given Time (1972)
  • Not Without Homage (1975)
  • The Print of Miracle (1978)
  • Lighting Candles (1982)
  • Kindred (1986)
  • The Fluent Moment (1996)
  • Singing to Wolves (2000)
  • Symbols of Plenty (2006)
  • Hearing Voices (2008)
  • Time Being (2009)

Darllen pellach golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jarvis, Matthew (2012). Ruth Bidgood (yn Saesneg). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9781783162703.
  2. 2.0 2.1 "Ruth Bidgood Obituary" (yn Saesneg). Seren Books. 8 Mawrth 2022. Cyrchwyd 8 Mawrth 2022.
  3. Gower, Jon (7 Mawrth 2022). "Beautiful Hieroglyphs: A Tribute to Ruth Bidgood" (yn Saesneg). Nation Cymru. Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.
  4. Matthew Jarvis (15 Mehefin 2012). Ruth Bidgood (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2523-0.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.