Gwasg Prifysgol Cymru

cyhoeddwr academaidd
(Ailgyfeiriad o University of Wales Press)

Gwasg Prifysgol Cymru yw prif gyhoeddwyr academaidd Cymru ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd Celtaidd. Cafodd 'Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru' ei sefydlu yn 1922 fel un o fyrddau canolog Prifysgol Cymru (gyda'r Bwrdd Academaidd a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd).

Gwasg Prifysgol Cymru
Enghraifft o'r canlynolgwasg prifysgol, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Rhan oy fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1922 Edit this on Wikidata
GweithredwrPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAssociation of Learned and Professional Society Publishers Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Enw brodorolGwasg Prifysgol Cymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.uwp.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae'r Wasg yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru dros y blynyddoedd, yn arbennig ym meysydd cyhoeddiadau ar hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith ei chyhoeddiadau pwysicaf mae Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi tua 60 o lyfrau academaidd bob blwyddyn.

Cyfarwyddwyr y Wasg golygu

  • 1990 – 1998 : Ned Thomas[1]
  • 1998 – 2003 : Susan Jenkins
  • 2003 – 2008 : Ashley Drake[2]
  • Ionawr 2010 – 2017 : Helgard Krause (aeth ymlaen i fod yn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru)[3].
  • Mawrth 2017 – : Natalie Williams[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cymrodyr er Anrhydedd Ned Thomas. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  2. New boss at University of Wales Press (en) , WalesOnline, 7 Awst 2003. Cyrchwyd ar 8 Mawrth 2017.
  3.  Pennaeth Newydd i Wasg Prifysgol Cymru. Prifysgol Cymru (25 Ionawr 2010). Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  4. Cyfarwyddwr newydd i Wasg Prifysgol Cymru , Golwg360, 8 Mawrth 2017.

Dolen allanol golygu