Ruth Westheimer
actores a aned yn 1928
Therapydd rhyw a chyflwynydd sioeau siarad oedd Ruth Westheimer (4 Mehefin 1928 – 12 Gorffennaf 2024)[1] a adnabyddir yn well fel Dr Ruth. Roedd yn Almaenes Iddewig a dreuliodd rhan fwyaf o'i bywyd yn yr Unol Daleithiau. Daeth yn adnabyddus yn yr 1980au am drafod rhyw a rhywioldeb ar radio a theledu cebl.[2]
Ruth Westheimer | |
---|---|
Ganwyd | Karola Ruth Siegel 4 Mehefin 1928 Wiesenfeld |
Bu farw | 12 Gorffennaf 2024 Manhattan |
Man preswyl | Washington Heights |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, Unol Daleithiau America, yr Almaen |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, therapydd rhyw, cyflwynydd teledu, addysgwr rhyw, academydd, cymdeithasegydd, llenor, actor teledu, actor llwyfan, actor llais, sniper |
Cyflogwr | |
Taldra | 140 centimetr |
Plant | Joel Westheimer |
Gwobr/au | Magnus Hirschfeld Medal, Women in Technology Hall of Fame, Gwobr Leo-Baeck, Fellow of the New York Academy of Medicine, Ellis Island Medal of Honor |
Gwefan | http://drruth.com/ |
Ganwyd Karola Ruth Siegel yn Wiesenfeld (ger Karlstadt am Main), Yr Almaen yn unig blentyn i Iddewon uniongred. Yn Ionawr 1939, wedi i'w thad gael ei gymeryd y Natsiaid, fe'i danfonwyd i gartref plant yn y Swistir. Dysgodd yn 1945 fod ei rhieni wedi marw yn Yr Holocost, efallai yn Auschwitz. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1956 lle astudiodd a dysgodd Seicoleg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Staff (2024-07-13). "Legendary sex therapist Dr Ruth dead at age 96". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-07-14.
- ↑ "Ruth Westheimer". IMDb. Cyrchwyd 7 Mawrth 2008.
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.