Rutland Water
Cronfa ddŵr yn Rutland, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Rutland Water. Mae'n gorwedd yn nyffryn Afon Gwash yng nghanol y sir i'r dwyrain o dref Oakham. Yn ôl arwynebedd, dyma'r gronfa ddŵr fwyaf yn Lloegr, ond o ran ei chynhwysedd rhagorir arni gan Kielder Water yn Northumberland.
![]() | |
Math | llyn artiffisial ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rutland ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 10.86 km² ![]() |
Uwch y môr | 85 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.67°N 0.67°W ![]() |
Cod OS | SK90450646 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | safle Ramsar ![]() |
Manylion | |
Crëwyd y gronfa ddŵr trwy adeiladu argae ger pentref Empingham. Cafodd pentrefan Nether Hambleton a'r mwyafrif o Middle Hambleton eu dymchwel fel rhan o'r gwaith, a gwblhawyd ym 1975. Mae'r gronfa ddŵr yn cael ei llenwi trwy bwmpio o Afon Nene ac Afon Welland, ac mae'n darparu dŵr i Ddwyrain Canolbarth Lloegr.
Yn ogystal â storio dŵr, mae'r gronfa yn ganolfan chwaraeon boblogaidd - gall ymwelwyr hwylio, pysgota, cerdded a beicio ar hyd trac perimedr 25 milltir (40 km). Mae ardaloedd mawr o wlyptir (yn ogystal â nifer o goedwigoedd bach) ym mhen gorllewinol y llyn sy'n ffurfio gwarchodfa natur, a reolir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaerlŷr a Rutland. Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA) o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei phoblogaethau o hwyaid llwyd a hwyaid llydanbig sy'n gaeafu yno. Cafodd gweilch y pysgod eu hailgyflwyno i'r llyn ym 1996.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5c/Rutland_Water_aerial.jpg/400px-Rutland_Water_aerial.jpg)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rutland Ospreys", Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaerlŷr a Rutland; adalwyd 20 Awst 2022