Hwyaden lwyd
Hwyaden Lwyd | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Anas |
Rhywogaeth: | A. strepera |
Enw deuenwol | |
Anas strepera Linnaeus, 1758 |
Mae'r Hwyaden lwyd (Anas strepera) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin trwy rannau helaeth o'r byd, yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn oer, mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de i aeafu.
Hwyaden ganolig o ran maint ydyw, rhwng 46 a 56 cm o led ac 78–90 cm ar draws yr adenydd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda'i gorff lwyd a thu ôl du amlwg, gyda gwyn ar yr adenydd. Mae'r iâr yn anoddach ei hadnabod, gan ei bod yn edrych yn debyg iawn i iâr Hwyaden wyllt, er ei bod ychydig yn llai.
Adeiledir y nyth mewn corsydd neu ar lannau llynnoedd. Planhigion yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed, ac mae'r oedolion yn bwyta rhywfaint o folysgiaid yn y tymor nythu. Yn y gaeaf gallant gasglu at ei gilydd yn heidiau bychain ond anaml y'i gwelir mewn heidiau mawr fel rhai o'r hwyaid eraill.
Mae'r Hwyaden Lwyd yn aderyn gweddol gyffredin ar Ynys Môn ond yn llai cyffredin mewn rhannau eraill o Gymru. Credir fod ei niferoedd yn cynyddu'n raddol.