Rygbi'r Undeb Liechtenstein

Nodyn:Sport overview

Corff Llywodraethol golygu

Er y nodir mai o dan mantell Ffederasiwn Rygbi y Swistir bydd llawer o gemau clwb rygbi yn Liechtenstein, mae gan y Dywysogaeth Undeb Rygbi Liechtenstein ei hun, Liechtenstein Rugby Union Archifwyd 2017-06-13 yn y Peiriant Wayback.. Serch hynny, mae'r ddau dîm, (dim ond dau sydd) yn chwarae o fewn strwythur y Swistir.

Mae Undeb Rygbi Liechtenstein yn aelod o Rugby Europe (yr hen FIRA-AER) ond nid o'r corff byd-eang, World Rugby.

Hanes golygu

Gêm leiafrifol yw rygbi yn Liechtenstein ac mae poblogaeth fechan y wlad, llai na 50,000 o bobl, yn golygu mai bychan iawn yw'r nifer o chwaraewyr posib sydd ar gael.

Rhoddwyd seiliau i rygbi yn Liechtenstein yn yr 1980au wrth i fyfyrwyr brwdfrydig yn ysgolion uwchradd Gymnasiwm Liechtenstein a'r Realschule Vaduz gymryd profion hyfforddi yn y gêm. Ymhen ugain mlynedd, yn 2005, sefydlwyd y clwb rygbi cyntaf, Clwb Rygbi Lynx, ei ffurfio yn Liechtenstein i chwarae'n rheolaidd yng nghynghrair y Swistir.

Sefydlwyd Undeb Rygbi Liechtenstein (meu Liechtenstein Rugby Union, LRU, fel yr adnebir yn swyddogol) ar 10 Rhagfyr 2010. Rhoddwyd cais i ymuno â'r FIRA-AER (a adnebir bellach fel 'Rugby Europe') ei gyflwyno i'r Llywydd, Mr Baque yn Chwefror 2011 wrth iddo yntau ymweld â Liechtenstein. Ym mis Mai 2011, chwaraeodd y tîm cenedlaethol yn eu twrnament gyntaf, a hwnnw mewn twrnament 7 bob ochr yn Bournemouth, Lloegr.   Derbyniwyd Liechtenstein i Gymdeithas Rygbi Ewrop ym mis Rhagfyr 2011 gan yr FIRA-AER mewn cyfarfod ym Mharis.

Roedd yn fwriad gan Liechtenstein gymryd rhan yng nghymalau cynnar Cwpan Clybiau Ewrop, ond ddigwyddodd hyn ddim oherwydd bu'n rhaid i'r Dywysogaeth dynnu nôl oherwydd prinder chwaraewyr. Yn 2013 bu i'r tîm cenedlaethol chwarae yng nghystadleuaeth FIRA Sevens GPS yn Latfia gan golli i Norwy 34-0, Slofacia 26-10 ac Estonia 29-15. [1] Wedi ail-frandio yn 2014, adnebir FIRA (Fédération Internationale de Rugby Amateur) bellach fel 'Rugby Europe'.

Dau Glwb golygu

Dim ond dau glwb sydd yn y wlad, Lynx RC, a leolir Sportpark Eschen-Mauren, yn Eschen, a arferau chwarae yng nghynghreiriau'r Swistir,[2] a FC Vaduz Red Pride Rugby, a leolir ym mhrifddinas Liechtenstein, Vaduz ac sy'n rhan o strwythur clwb pêl-droed FC Vaduz.

  1. European Rugby, retrieved 19 August 2009
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-17. Cyrchwyd 2017-06-23.