Undeb Rygbi Liechtenstein
Undeb Rygbi Liechtenstein (neu Liechtenstein Rugby Union, LRU, fel yr adnebir yn swyddogol) yw corff swyddogol rygbi yn Nhywysogaeth annibynnol Liechtenstein, meicro-wlad sy'n gorwedd mewn dyffryn rhwng y Swistir ac Awstria.
Hanes byr sydd i Rygbi'r Undeb Liechtenstein ac oherwydd poblogaeth bychan y wlad mae'n anodd iddi ddatblygu nifer o dimau.
Sefydlwyd Undeb Rygbi Liechtenstein ar 10 Rhagfyr 2010. Cafodd cais i ymuno â'r FIRA-AER (a adnebir ers 2014 fel 'Rugby Europe') ei gyflwyno i'r Llywydd, Mr Baque, yn Chwefror 2011 wrth iddo yntau ymweld â Liechtenstein. Ym mis Mai 2011, chwaraeodd y tîm cenedlaethol yn eu twrnament gyntaf, a hwnnw mewn twrnament 7 bob ochr yn Bournemouth, Lloegr. Derbyniwyd Liechtenstein i Gymdeithas Rygbi Ewrop ym mis Rhagfyr 2011 gan yr FIRA-AER mewn cyfarfod ym Mharis.
Roedd yn fwriad gan Liechtenstein gymryd rhan yng nghymalau cynnar Cwpan Clybiau Ewrop, ond ddigwyddodd hyn ddim oherwydd bu'n rhaid i'r Dywysogaeth dynnu nôl oherwydd prinder chwaraewyr. Yn 2013 bu i'r tîm cenedlaethol chwarae yng nghystadleuaeth FIRA Sevens GPS yn Latfia gan golli i Norwy 34-0, Slofacia 26-10 ac Estonia 29-15. [1] Wedi ail-frandio yn 2014, adnebir FIRA (Fédération Internationale de Rugby Amateur) bellach fel 'Rugby Europe'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ European Rugby, retrieved 19 August 2009
Dolen allanol
golyguhttp://www.rugby-liechtenstein.li/ Archifwyd 2017-06-13 yn y Peiriant Wayback Gwefan Swyddogol Undeb Rygbi Liechtenstein (yn Almaeneg)