Rygbi saith bob ochr
Ffurf ar rygbi'r undeb yw rygbi saith bob ochr. Chwaraeir ar gae rygbi'r undeb gan saith chwaraewr ar y naill ochr a'r llall. Para'r ornest am 15 munud yn unig. Dyfeisiwyd y gêm ym Melrose yn yr Alban ym 1883. Y ddwy brif gystadleuaeth ryngwladol yw Cystadleuaeth Saith Bob Ochr Cwpan Rygbi'r Byd a Chyfres IRB Rygbi Saith Bob Ochr y Byd.[1] Chwareir gan ddynion yn unig yng Ngemau'r Gymanwlad ers 1998, a Gemau'r Gymanwlad Ieuenctid ers 2004. Roedd yn fabolgamp Olympaidd am y tro cyntaf, gan ddynion a menywod, yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth chwaraeon |
---|---|
Math | rygbi'r undeb, chwaraeon olympaidd |
Dyddiad darganfod | 1833 |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1833 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) rugby (sport): rugby sevens. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2015.