Awdur digrif a sgriptiwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Sidney Joseph Perelman (1 Chwefror 190417 Hydref 1979). Nodweddir ei waith gan chwarae ar eiriau, parodi, nihiliaeth gomig, a dychan pob dydd.

S. J. Perelman
Ganwyd1 Chwefror 1904 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 1979 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, llenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig Edit this on Wikidata

Ganed yn Brooklyn, Efrog Newydd, a symudodd y teulu i Providence, Rhode Island, pan oedd yn fachgen. Astudiodd ym Mhrifysgol Brown, ac yno golygodd gylchgrawn hiwmor y myfyrwyr, ond ni derbyniodd ei radd. Priododd â Laura West ym 1929, a bu'r ddau ohonynt yn cydweithio ar sawl sgript ffilm. Cyfrannodd Perelman at sgriptiau ar gyfer ffilmiau cynnar y brodyr Marx, gan gynnwys Monkey Business (1931) a Horse Feathers (1932). Cyhoeddwyd ei ysgrifau ffraeth yn fynych gan gylchgrawn The New Yorker, a chesglir y rheiny a gweithiau eraill mewn cyfrolau megis Strictly from Hunger (1937), Westward Ha!, or, Around the World in Eighty Clichés (1948), a The Road to Miltown, or, Under the Spreading Atrophy (1957). Ym myd y theatr, cyfrannodd at y comedïau All Good Americans (1934) ac One Touch of Venus (1943). Perelman oedd cyd-enillydd Gwobr yr Academi am y sgript addasedig orau am iddo gydweithio ar Around the World in 80 Days (1956). Bu farw yn Efrog Newydd yn 75 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) S.J. Perelman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mai 2021.