SA1 Glannau Abertawe

Mae SA1 Glannau Abertawe (ar lafar: SA1) yn enw marchnata a roddir i ddatblygiad o ardal cyn-ddiwydiannol i'r gogledd o ddociau Abertawe. Lleolir yr ardal i dde-ddwyrain canol dinas Abertawe. Ymyla ar Ffordd Fabian i'r gogledd ac mae'n cynnwys ardal Dociau Tywysog Cymru.

SA1 Glannau Abertawe
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6204°N 3.9239°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Y Ganolfan Technium
Fflatiau Bellway yn edrych allan ar Ddoc Tywysog Cymru
Doc Tywysog Cymru yn SA1

Bydd y datblygiad yn gymysgedd o adeiladau masnachol a chartrefi. Disgwylir y bydd y datblygiad yn creu 2900 o swyddi newydd, dros 2000 o fflatiau a thai, 65,000 m² (700,000 troedfedd sgwâr) o fusnesau/swyddfeydd; 29,000 m² (312,000 troedfedd sgwâr) o adloniant masnachol; 26,400 m² (284,200 troedfedd sgwâr) o westai; 23,200 m² (249,700 troedfedd sgwâr) o gyfleusterau sefydliadol; 1,015 m² (10,930 troedfedd sgwâr) o gyfleusterau glannau'r marina.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

Prosiectau sydd wedi'u cwblhau

golygu

Erbyn mis Hydref 2008, roedd y prosiectau a oedd wedi'u cwblhau yn cynnwys:[3]

Swyddfeydd

golygu
  • dwy swyddfa Technium Abertawe yn ganolfannau busnes a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Awdurdod Datblygu Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn annog mwy o gwmnïau technolegol i sefydlu eu hunain yn y ddinas;
  • swyddfeydd cwmni cyfreithiol Morgan Cole;
  • Swyddfeydd Admiral Group House (nee Cyprium) wedi'u llogi gan gwmni yswiriant Admiral Insurance;
  • Ellipse: 55,000 tr sg (5,100 m2) datblygiad gan Babcock and Brown llogwyd gan VOSA;[4]
  • Datblygiad Swyddfa Prosiect Ethos;[5]
  • Tŷ Langdon: swyddfeydd gan Broadhall Wharfedale.

Cartrefi

golygu
  • Altamar: 158 apartment gan Bellway Homes;
  • Mariner's Court: 79 apartment ymddeol gan Coastal Housing Group

Amrywiol a datblygiadau eraill

golygu
  • tynnu i lawr ac ail-adeiladu yr Eglwys Norwyaidd;
  • Warws y J Shed yn cael ei newid i safle fasnachol gan gynnwys swyddfeydd a thai bwyta;
  • Eglwys Gymunedol y Glannau;
  • Gwesty De Vere Village Hotel a Chanolfan Hamdden;
  • canolfan gyfeiriol deintyddol.

Mynediad

golygu
  • Pont yr Hwyl; a
  • Phont Traffalgar dros forglawdd Bae Abertawe.

Cofeb rhyfel

golygu

Lleolir cofeb rhyfel yn y Sgwâr rhwng y ddau adeilad Technium i gofio morwyr Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. http://www.sa1swanseawaterfront.com/server.php?show=nav.8839 Archifwyd 2012-09-08 yn archive.today "SA1 Developments to date"] Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adalwyd 16-04-2009
  4. "WalesOnline: Vehicle agency motors to gateway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-27. Cyrchwyd 2009-04-16.
  5. New Ethos for Swansea Technium companies

Dolenni Allanol

golygu