Eglwys Norwyaidd, Abertawe
Adeilad rhestredig gradd II yw Eglwys Norwyaidd Abertawe, a leolir yn SA1 Glannau Abertawe. Yn wreiddiol, lleolwyd yr adeilad yn Nociau Casnewydd. Fel rhan o'r adeilad, ceir Cenhedaeth y Morwyr ar y pen orllewinol ac eglwys gothig unigol ar yr ochr ddwyreiniol. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol gan y Sjømannskirken fel man addoli ar gyfer morwyr Norwyaidd pan fyddent yn ymweld â Chymru. Ad-leolwyd yr eglwys yn Abertawe ym 1910 ar lannau'r Afon Tawe. Gyda'r datblygiadau a chynlluniau adfywio ardal SA1, ad-leolwyd yr egwlys am yr eildro. Gorchuddiwyd yr adeilad â sgaffaldau a chafodd ei dynnu i lawr yn ofalus. Cafodd ei ail-adeiladu ger dau adeilad rhestredighanesyddol arall – y Tŷ Iâ a'r Sied J. Ar hyn y bryd, defnyddir yr adeilad ar gyfer arddangosfa gelf lleol ac yn fuan bydd yn cael ei farchnata fel siop goffi neu rhyw ddefnydd tebyg.
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | St. Thomas, Abertawe |
Sir | St. Thomas, Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 51.620167°N 3.930857°W |
Cod post | SA1 8PJ |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Explore Gower: Norwegian Church Archifwyd 2008-06-30 yn y Peiriant Wayback