Y gred y dylid neilltuo dydd Sul fel diwrnod arbennig, lle na wneir unrhyw waith ac na wneir unrhyw adloniant gwamal yw Sabathyddiaeth. Yn hanesyddol bu'r gred hon yn nodwedd i wahanol raddau o enwadau Protestannaidd a ddilynodd camre Piwritaniaeth.[1][2]

Deillia'r athrawiaeth hon o'r Deg Gorchymyn yn Llyfr Exodus y Beibl:

Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef. (Exodus 20:8–11; Beibl William Morgan)

Mae pob enwad Cristnogol yn arddel y syniad hwn o ddiwrnod arbennig bob wythnos, er bod rhai'n cadw'r Sadwrn yn hytrach na'r Sul (e.e. Adfentyddion y Seithfed Dydd). Ond mae rhai enwadau yn fwy penderfynol yn eu credoau nag eraill. Y rhai sy'n gosod rheolau llym ar eu haelodau (ac yn aml ar y gymuned yn gyffredinol) ynglŷn â'r hyn y gellir ac na ellir ei wneud ar y Sul a elwir yn "Sabathyddol". Ymhlith y gweithgareddau a allai gael eu gwahardd mae chwarae gemau, dawnsio, darllen llenyddiaeth seciwlar, canu caneuon seciwlar, yn ogystal â mynychu tafarndai, theatrau, sinemâu a digwyddiadau chwaraeon.

Cyfeiriadau golygu

  1. Carlisle, Rodney P. (17 Mawrth 2005). Encyclopedia of Politics (yn Saesneg). SAGE. t. 853. ISBN 9781412904094.
  2. Heyck, Thomas (27 Medi 2013). A History of the Peoples of the British Isles: From 1688 to 1914 (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 251. ISBN 9781134415205.

Gweler hefyd golygu