Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod o'r wythnos. Mae gwahanol rannau o'r byd yn ei ystyried yn chweched neu'n seithfed diwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi ar ôl Sadwrn, un o dduwiau'r Rhufeiniaid. Mae Iddewaeth yn clustnodi'r Sadwrn yn ddydd sanctaidd oherwydd dyna'r diwrnod (yn ôl eu crefydd) yr ymlaciodd Duw ar ôl creu'r bydysawd.

Satwrnws, Caravaggio, 16ed ganrif

Termau'r chwarelwyr a'r glowyr golygu

  • 'Sadwrn bownti' - telid bonws am glirio rwbel yn y chwareli (Gogledd)
  • 'Sadwrn cyfrif' - telid cyflog pythefnos neu fis ar y Sadwrn (De a Gogledd)
  • 'Sadwrn cyfrif mawr' - cyffelyb i'r uchod (Gogledd)
  • 'Sadwrn du' - y Sadwrn ar ôl y Sadwrn cyfri, pan na cheid cyflog (Morgannwg, Gogledd-ddwyrain)
  • 'Sadwrn pae' ('Sadwrn tâl') = Sadwrn cyfrif
  • 'Sadwrn syb' ('Sadwrn sist') - Sadyrnau y telid benthyciad i aros pryd tan y Sadwrn cyfrif nesaf (Gogledd)

Ffynhonnell: Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 3156

Dyddiau'r wythnos
Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener | Dydd Sadwrn | Dydd Sul


  Eginyn erthygl sydd uchod am y calendr neu amser. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Dydd Sadwrn
yn Wiciadur.