Pwyll y Pader
Traethawd crefyddol canoloesol ar gyfer offeiriaid yw Pwyll y Pader o Ddull Hu Sant neu Pwyll y Pader. Ceir y testun yn y llawysgrif Cymraeg Canol Llyfr yr Ancr (hanner cyntaf y 14g), ond ymddengys fod y gwaith gwreiddiol i'w ddyddio i'r 13g. Mae'r awdur yn anhysbys.
Cyfieithiad rhydd ydyw o draethawd Lladin, y De Quinque Septenis seu Septenariis Opusculum, gan Hu Sant (Hugo o St. Victor), un o ddiwinyddion mwyaf y 12g a ddarlithai ym Mharis. Crynhoad a geir o'r ddwy bennod gyntaf yn llyfr Hu Sant, ond mae'r drydedd bennod a'r bedwaredd yn cael ei throsi i'r Gymraeg yn bur fanwl gydag ychwanegiadau gwreiddiol gan y cyfieithydd yn ogystal.[1]
Mae 'Pwyll y Pader' yn cynnwys y cyfieithiad Cymraeg cynharaf sydd ar glawr o Weddi'r Arglwydd, yn y rhan o'r traethawd sy'n trafod y Saith Pechod Marwol:
- Ein Tad ni, yr hwn ysydd yn y nefoedd,
- Cadarnhaer dy Enw di, Arglwydd.
- Doed dy deyrnas di arnam ni.
- Bid arnam dy [e]wyllys di megys y mae yn y nef
- [ac felly] yn y ddaear.
- Dyro di ein bara beunyddiawl.
- Maddeu di, Arglwydd, ein pechodeu i ni a wnaetham i'th erbyn,
- megys y maddeuwn ninneu i ereill, o'th drugaredd ditheu,
- yr hwnn a wnaethant i'n herbyn ninneu.
- Na ddwg ti ni ym mhrofedigaeth.
- Rhyddhâ di ni, Arglwydd, y gan y drwg.[2]