Salmeterol
Mae salmeterol yn fath o feddyginiaeth. Mae'n broncoledydd. Mae hyn yn golygu ei fod yn gwneud y bronciolynnau - y tiwbiau sy'n dod ag ocsigen i'r ysgyfaint - i ehangu. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i ocsigen gyrraedd yr ysgyfaint. O'r ysgyfaint, mae ocsigen yn mynd i mewn i'r gwaed ac yn teithio i weddill y corff.
Mewnanadlydd brand Serevent o salmeterol | |
Math o gyfrwng | par o enantiomerau |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 415.272 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₅h₃₇no₄ |
Enw WHO | Salmeterol |
Clefydau i'w trin | Asthma, clefyd rhwystrol yr ysgyfaint |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae salmeratol yn cael ei werthu o dan yr enw brand Serevent yn y DU.[1]
Defnydd
golyguMae salmeterol yn froncoledydd sympathomimetig sy'n cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a gwayw ar gyhyrau llyfn y bronci; cyflyrau lle mae'r llwybrau anadlu yn cael eu culhau. Ei fantais dros salbutamol yw bod ei effeithiau yn para'n hirach[2].
Mae salmeterol yn ymlacio'r cyhyrau sy'n amgylchu'r llwybrau anadlu yn yr ysgyfaint. Gan ei fod yn araf wrth gychwyn gweithio, nid yw'n cael ei ddefnyddio er mwyn gwellhad unionyrchol o symptomau asthma. Mae'n cael ei ragnodi er mwyn osgoi ymosodiadau ac mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y sawl sy'n cael pyliau asthma yn y nos.
Mae salmeterol wastad yn cael ei ragnodi gyda chorticosteroidau. Mae salmeterol ar gael fel paratoad cyfunol a'r corticosteroid fluticasone o dan yr enw Seretide[3].
Dos
golyguFel arfer mae dos o salmeratol rhwng 100 micro gram a 200 micro gram pob dydd. Mae'n cael ei weini trwy fewnanadlydd. Mae'r feddyginiaeth yn cymryd tua 10 i 20 munud i weithio ac mae ei effeithiau yn para am tua 12 awr.
Mae salbutamol ar gael trwy ragnodi gan feddyg neu weithiwr iechyd awdurdodedig arall yn unig yn y Deyrnas Gyfunol.
Sgil effeithiau
golyguOherwydd ei fod yn lledu'r gwythiennau, mae sgil effeithiau cyffredin salmeterol yn cynnwys penysgafnder, haint yn y sinws a'r feigryn. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae sgil effeithiau salmeterol yn fach ac nid oes angen triniaeth neu fe ellir eu trin yn hawdd. Mae rhai o'r sgil effeithiau mwy difrifol yn cynnwys y galon yn curo'n gyflym iawn, pwysau gwaed uchel ac anadlu yn mynd yn anoddach yn hytrach na mynd yn haws. O ddioddef o'r sgil effeithiau mwy difrifol hyn dylid cysylltu â darparwr gofal iechyd ar frys[4].
Does dim tystiolaeth bod salmeterol yn creu problemau o'i ddefnyddio pan fo'r claf yn feichiog neu'n bwydo ar y fron.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BMA New Guide to Medicine & Drugs Rhif 8 (2015) ISBN13:9780241183410 tudalen 383 salmeterol
- ↑ NICE SALMETEROL adalwyd 20 Ionawr 2018
- ↑ Seretide 50, 125, 250 Evohaler adalwyd 20 Ionawr 2018
- ↑ Drugs.com Salmeterol adalwyd 20 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |