Saltring
Offeryn cerdd o deulu'r sither yw saltring[1] (Groeg (iaith): ψαλτήρι; Saesneg: psaltery) neu nabl.[2] Mae'n cynnwys blwch pren wedi'i dyllu â thyllau sain, gyda thannau wedi'u hymestyn ar ei draws, ac ynghlwm wrth y blwch gyda phegiau neu binnau. Mae'r tannau'n cael eu plycio â'r bysedd neu â phlectrwm. Fel arfer mae gan y blwch siâp petryal neu drapesiwm, neu "ben mochyn" (h.y. â dwy ochr grwm a dwy ochr syth).
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | offeryn â thannau wedi'i blycio, true board zithers with resonator box |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd saltringau'n cael eu darlunio'n aml mewn llawysgrifau, paentiadau a cherfluniau canoloesol ledled Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol, ac yn amlwg roedd y saltring yn offeryn poblogaidd a chyffredin cyn y 16g. Fel y rhan fwyaf o offerynnau eraill ei gyfnod nid oedd ganddi unrhyw repertoire penodol, ond roedd yn chwarae pa bynnag dôn y gofynnwyd amdani. Fe'i disodlwyd yn raddol gan offerynnau tebyg fel y sither, a'r dwsmel, ac roedd wedi diflannu o Ewrop erbyn y 19g.
Oriel
golygu-
Darlun o frenin yn canu saltring hirsgwar, o Sallwyr Benedictaidd (Ffrainc, 9g)
-
Darlun o fenyw yn canu saltring â phen crwn, o Cantigas de Santa Maria (Sbaen, 13g)
-
Darlun o ŵr a menyw'n canu dau saltring trionglog (rotte), o Cantigas de Santa Maria (Sbaen, 13g)
-
Darlun o frenin yn canu saltring o ffurf "pen mochyn", o lawysgrif o De Musica gan Boethius (14g)
-
Paentiad o angel yn canu saltring pen mochyn (1480au), gan Hans Memling
-
Torlun pren (tua 1570–77) o fenyw yn canu saltring trapesoidaidd ar fwrdd
-
Saltring trapedoidaidd sydd wedi goroesi o'r 18g (Museu de la Música de Barcelona)
Cyfeiriadau Beiblaidd
golyguEr bod yr enwau "saltring" a "nabl" yn cael eu defnyddio sawl gwaith yn y cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl, mae'r geiriau Hebraeg cyfatebol yn cyfeirio at ryw offeryn arall o fath anhysbys. Er enghraifft:
- "Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch, ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin." (Daniel 3:5)
- "Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant." (Eseia 5:12)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ saltring. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Hydref 2022.
- ↑ nabl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Hydref 2022.