Cwmni cynhyrchu telynau o'r Eidal yw Salvi. Sefydlwyd y cwmni yn 1956 gan yr Americanwr Eidalaidd Victor Salvi.

Salvi
Diwydiantgwneud offerynnau cerdd
Sefydlwyd1956; 68 blynedd yn ôl (1956)
SefydlyddVictor Salvi
PencadlysVia Rossana, 7 12026, Piasco, yr Eidal
Pobl allweddol
Marco Salvi (Llywydd)
Cynnyrchtelynau
Gweithwyr
90
Is-gwmni/auLyon & Healy, Bow Brand
www.salviharps.com

Roedd canu'r delyn a gwneud telynau yn rhan o hanes teulu Victor Salvi ar ochr ei dad a'i fam ers cenedlaethau. Dysgodd ganu'r delyn yn blentyn a datblygodd yrfa lwyddiannus fel telynor. Yn ystod yr ail ryfel byd, yn sgil prinder rhannau ar gyfer trwsio telynau, dechreuodd ailgydio yn nhraddodiad y teulu o wneud offerynnau cerdd. Bu'n trwsio telynau yn ei dref enedigol yn Chicago, ac erbyn 1954 roedd wedi adeiladu ei delyn gyntaf yn Efrog Newydd. Yn 1956, symudodd i'r Eidal a sefydlodd gwmni o'r enw N.S.M. neu "nuovi strumenti musicali" (offerynnau cerdd newydd), sy'n dal i weithredu o dan yr enw Salvi. Yn 1974, symudwyd y gweithdy i bentref Piasco ger Saluzzo yn Piemonte, sydd â thraddodiad hir o wneud gwaith coed.

Yn 1987, prynodd Salvi gwmni telynau Lyon & Healy o Chicago, sef yr unig gwmni telynau mawr arall yn y byd.

Heddiw

golygu

Mae tua 90 o bobl yn gweithio i'r cwmni erbyn hyn, gan wneud tua dwy fil o delynau bob blwyddyn o bren pyrwydd a masarn. Defnyddir cwmni Bow Brand yn Lloegr i ddarparu'r tannau, a chaiff mecanwaith y telynau eu gwneud yn y Swistir. Telynau cyngerdd yw tua hanner y telynau sy'n cael eu cynhyrchu gan Salvi, a'r gweddill yn delynau gwerin neu'n delynau electroacwstig.

Mae'r is-gwmni, Lyon & Healy, yn cyflogi tua 135 o staff yn Chicago.

Amgueddfa

golygu

Agorwyd amgueddfa'r cwmni, Museo dell'Arpa Victor Salvi, ym mhentref Piasco yn 2006. Mae'n cynnwys casgliad sylweddol o delynau hanesyddol.

Sefydliad Victor Salvi

golygu

Sefydlwyd Fondazione Victor Salvi yn y flwyddyn 2000, ac mae'n cefnogi canu'r delyn ledled y byd. Mae'n trefnu cystadlaethau, yn cynnig ysgoloriaethau, yn comisiynu gweithiau newydd ar gyfer y delyn ac yn rhoi benthyg telynau.