Telynor, gwneuthurwr telynau a dyn busnes o'r Unol Daleithiau oedd Victor Salvi (4 Mawrth 192010 Mai 2015). Fe'i ganed yn Chicago i deulu o Eidalwyr; roedd ei rieni wedi mudo i'r Unol Daleithiau yn 1909, a'r ddau'n dod o deulu o delynorion a gwneuthurwyr telynau.

Victor Salvi
Ganwyd4 Mawrth 1920 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 2015 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethtelynor, gwneuthurwr offerynnau cerdd Edit this on Wikidata

Ar ôl rhai blynyddoedd llwyddiannus fel telynor, gan gynnwys cyfnod gyda Philharmonig Efrog Newydd, symudodd Victor i'r Eidal yn 1955 i sefydlu busnes gwneud telynau yn Genova, sef cwmni telynau Salvi, prif wneuthurwr telynau Ewrop hyd heddiw. Caiff ei gofio fel rhywun sydd wedi arloesi o ran cynhyrchu telynau cadarnach sy'n canu'n uwch, a rhywun, drwy ei gwmni, a gododd statws y delyn yn rhyngwladol.[1]

Cyfeiriadau

golygu