Chwaraewr pêl-droed yw Samuel Derek "Sam" Ricketts (ganwyd 11 Hydref 1981). Bellach yn rheolwr C. P. D. Wrecsam ers 2018, roedd yn amddiffynnwr yn ystod ei yrfa. Mae Ricketts hefyd wedi chwarae fel amddiffynnwr i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ei safle o ddewis oedd cefnwr, ar y naill ochr neu'r llall. Chwaraeodd dros gant o gemau i Abertawe cyn ymuno â Hull City ac yna Bolton Wanderers. Mae ei deulu'n adnabyddus am farchogaeth ceffylau ac enillodd ei dad wobr pencampwr y byd am wneud hynny yn 1978.

Sam Ricketts

Ricketts yn chwarae i Wolverhampton Wanderers, 2014
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnSamuel Derek Ricketts[1]
Dyddiad geni (1981-10-11) 11 Hydref 1981 (42 oed)
Man geniAylesbury, Lloegr
SafleAmddiffyn
Y Clwb
Clwb presennolSwindon Town
(ar fenthyg o Wolverhampton Wanderers)
Gyrfa Ieuenctid
000?–2000Oxford United
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2000–2003Oxford United45(1)
2002–2003Nuneaton Borough (loan)11(1)
2003–2004Telford United41(4)
2004–2006Swansea City89(2)
2006–2009Hull City113(1)
2009–2013Bolton Wanderers96(1)
2013–Wolverhampton Wanderers48(2)
2015–Swindon Town (loan)9(0)
Tîm Cenedlaethol
2003–2004Tim C Lloegr4(1)
2005–Cymru52(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 23:20, 26 Mai 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 23:20, 26 Mai 2015 (UTC)

Ar 2ail Mai 2018 fe'i benodwyd yn rheolwr parhaol C.P.D. Wrecsam ar gytundeb 3 blynedd. Hon fydd ei swydd gyntaf fel rheolwr ers casglu bathodynau UEFA gan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Gyrfa ryngwladol golygu

Er iddo gael ei eni'n Lloegr, mae ganddo'r hawl i chwarae dros Gymru oherwydd ei nain - ochr ei fam, a oedd yn Gymraes.[2] Ymddangosodd gyntaf dros Gymru ar 9 Chwefror 2005, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Hwngari, gêm gyntaf John Toshack pan ddychwelodd fel Rheolwr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hugman, Barry J. (2005). The PFA Premier & Football League Players' Records 1946–2005. Queen Anne Press. t. 521. ISBN 1-85291-665-6.
  2. "Sam Ricketts: Biography & Statistics". FAW. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-17. Cyrchwyd 2021-08-28.
  3. "Wales 2–0 Hungary". BBC Sport. 9 Chwefror 2005.