Llandegla

pentref a chymuned yn Sir Ddinbych

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandegla ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hanesyddol: Llandegla-yn-Iâl). Fe'i lleolir ar groesffordd ar lôn yr A525, tua hanner ffordd rhwng Dinbych a Wrecsam. Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Tegla.

Llandegla-yn-Iâl
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0632°N 3.2009°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000159 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ196524 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol, roedd Llandegla yn gorwedd yng nghwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys, a dyna sut y cafodd ei enw gwreiddiol.

Tua'r flwyddyn 1149, codwyd castell mwnt a beili Tomen y Rhodwydd gan Owain Gwynedd, tua milltir a hanner i'r de-orllewin o safle'r pentref heddiw.

Mae adeilad yr eglwys bresennol yn dyddio o 1866 pan ailadeiladwyd yr hen eglwys ganoloesol bron yn llwyr. Gerllaw ceir Ffynnon Tegla a ystyrid yn ffynnon sanctaidd, iachaol.

 
Creyr glas yn Llandegla

Ffynnon Tegla golygu

Saif ffynnon sanctaidd y Santes Tegla, ger Afon Alun y tu allan i'r pentref. Yn ôl dogfen a ysgrifennwyd yn yr 2g, roedd y Santes Tegla yn ddisgybl i Sant Pawl, ac roedd yn byw yn Iconium (Konya yn Nhwrci heddiw) ac roedd yn enwog am ei galluoedd iachaol; fe'i merthyrwyd yn 90 oed. Ni wyddys yn iawn sut y daethpwyd i anrhydeddu'r santes hon yn Ninbych, ond roedd Tegla Cymru, hefyd, yn enwog am iacháu clefyd o'r enw ‘Clwyf Tegla', neu'r epilepsi, gyda dŵr ei ffynnon. Arferai dioddefwyr gymryd rhan mewn defod gymhleth, sef ymdrochi yn y ffynnon, cerdded o'i chwmpas dair gwaith yn cario iâr (iâr ar gyfer dynes, ceiliog ar gyfer dyn) a chysgu o dan allor yr eglwys (gyda'r iâr), gan ddefnyddio'r Beibl yn obennydd. Teflid pinnau (a ddefnyddid i drywanau'r aderyn) i'r ffynnon ac, yn olaf, rhoddid pig yr iâr yng ngheg y claf. Trwy wneud hyn, trosglwyddid y ffitiau epileptig i'r iâr a oedd (fel y gellid disgwyl) yn gwanhau. Er iddynt gael eu condemnio gan awdurdodau'r eglwys, honnid bod y defodau hyn yn llwyddiannus yn aml, gan barhau hyd at oddeutu 1813.

Anrhydeddir Ffynnon y Santes Tegla yn flynyddol ar ei dydd gŵyl ym mis Medi. Nid yw ei nant byth yn rhedeg yn sych ac yn ystod cyfnod o sychder ym 1921 parhâi i ffrydio. Pan gloddiwyd y ffynnon ym 1935, daethpwyd o hyd i nifer o binnau, darnau arian ac offrymau eraill. yn 2018 roedd pedwar tamed o rhuban wedi'u gosod ar frigau'r goeden gerllaw.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandegla (pob oed) (567)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandegla) (149)
  
27.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandegla) (282)
  
49.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llandegla) (58)
  
26.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

  • Edward Tegla Davies. Ganed y llenor yn y pentref yn 1880, yn fab i chwarelwr. Mae'r pentref a'r cylch yn gefndir ac ysbrydoliaeth i nifer o'i gyfrolau, gan gynnwys ei ysgrifau cofiannol yn y llyfrau Y Foel Faen a Rhyfedd o Fyd ac yn yr hunangofiant Gyda'r Blynyddoedd.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]