Edward George Hemmerde
Cyfreithiwr a gwleidydd Seisnig oedd Edward George Hemmerde (13 Tachwedd 1871 – 24 Mai 1948).
Edward George Hemmerde | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 1871 |
Bu farw | 24 Mai 1948 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, dramodydd |
Swydd | Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol |
Chwaraeon |
Ganed ef yn Peckham, de Llundain, yn fab i reolwr banc. Addysgwyd ef yng Ngholeg Caerwynt a Choleg y Brifysgol, Rhydychen. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, cafodd gryn lwyddiant fel rhwyfwr. Enillodd sedd Dwyrain Sir Ddinbych dros y Rhyddfrydwyr yn Etholiad Cyffredinol 1906. Daliodd y sedd hyd 1910.
Yn 1920, ymunodd a'r Blaid Lafur, a bu'n Aelod Seneddol Llafur cyntaf etholaeth Crewe rhwng 1922 a 1924.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Samuel Moss |
Aelod Seneddol
Dwyrain Sir Ddinbych |
Olynydd: Edward Thomas John |