Sangiad

Gair neu gymal sy'n torri ar rediad arferol ymadrodd drwy ddodi yn ei ganol rywbeth sy'n gysylltiedig o ran ystyr ond heb fod yn rhan ramadegol ohono yw sangiad

Gair neu gymal sy'n torri ar rediad arferol ymadrodd drwy ddodi yn ei ganol rywbeth sy'n gysylltiedig o ran ystyr ond heb fod yn rhan ramadegol ohono yw sangiad. Fel dyfais lenyddol mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth ym marddoniaeth Beirdd yr Uchelwyr ac weithiau hefyd mewn cerddi Cymraeg eraill, hen a diweddar.

Pan na cheir fawr ddim cysylltiad â'r prif ymadrodd ond fel rhan o batrwm y gynghanedd neu fydr, nid yw'n fwy na gair llanw, ond yn nwylo'r cywyddwyr gorau mae'n medru bod yn ffigur grymus sy'n ategu'r prif ymadrodd, yn cryfhau ystyr ac yn mynegi teimlad dwys neu feddwl aruchel.

Un o'r beirdd canoloesol a gysylltir â'r arfer o gynnwys cyfresi hir o sangiadau yn eu cerddi yw Rhys Goch Eryri. Rhoddir yma enghraifft gan nodi'r sangiadau mewn llythrennau italaidd:

Doe, yngod rhwng dau angor,
Da dŷ dderw, marianferw môr,
Gŵyl coel a wna golwg cain,
Gwelais i ar fôr gwylain
Gwynnoedd, ddewisoedd ddeisyf,
Gwinllong â phatrwn crwn cryf
Yn hwylio, gŵyl addo gwledd,
Pyrth y gwin, parth â Gwynedd.[1]

Prif frawddeg yr wyth linell uchod yw "Doe / gwelais / gwinllong â phatrwn crwn cryf / yn hwylio / parth a Gwynedd".

Er bod sangiadau hir fel hyn yn gallu ymddangos yn fwrn i'r darllenydd heddiw, byddai'r bardd a'i gynulleidfa yn eu gweld fel addurn i goethi'r gerdd. Rhaid cofio hefyd mai rhywbeth i'r glust yw barddoniaeth y cyfnod.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), cerdd 1, llau. 1-8.